F116C.
(1)
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a)
sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf,
(b)
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
(c)
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2)
Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf—
(a)
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.