[F116B.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—LL+C

(a)sy’n dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),

(b)y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano,

(c)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, a

(d)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.]