[F116A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—LL+C
(a)sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf,
(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig” yw bod enw’r disgybl wedi ei ddileu o gofrestr dderbyn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(1);
(b)ystyr “ysgol gyntaf” yw’r ysgol a gynhelir yr oedd y plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi ar 1 Medi 2021.]
Diwygiadau Testunol
Amnewidiwyd y diffiniad o “awdurdod lleol” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.