14.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac a oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 ac na chafodd hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion cyn 31 Awst 2022.
(2) Ar 31 Awst 2022—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn; a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 14 mewn grym ar y dyddiad gwneud