Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigolLL+C
13.—(1) Pan fo hysbysiad CDU wedi ei roi yn unol ag erthyglau 9, 10, 11 neu 12, rhaid i’r corff llywodraethu roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol i ddyddiad yr hysbysiad oni bai—
(a)bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys; neu
(b)bod amgylchiadau eithriadol.
(2) Os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(3) Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol gan gorff llywodraethu yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 13 mewn grym ar y dyddiad gwneud
