Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion12.

Caiff plentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i gorff llywodraethu’r ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi roi hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion a rhaid i’r corff llywodraethu roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion o fewn 10 niwrnod ysgol i’r cais.