NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Atodlen 29”).

Mae Atodlen 29 yn addasu darpariaethau statudol amrywiol, sy’n ymwneud â hysbysiadau y mae angen eu rhoi er mwyn ceisio adennill meddiant o anheddau, yn ystod y cyfnod perthnasol (fel y diffinnir “the relevant period” gan baragraff 1(1) o’r Atodlen honno).

Roedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/778 (Cy. 172)), ac yn rhannol, Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1044 (Cy. 233)), yn diwygio’r addasiadau a wneir gan Atodlen 29.

Roedd y ddarpariaeth a wneir gan Atodlen 29 i ddod i ben ar 30 Medi 2020 (ar ddiwedd y cyfnod perthnasol). Roedd rheoliad 3 o O.S. 2020/1044 (Cy. 233) yn diwygio paragraff 1(1)(b)(ii) o’r diffiniad o’r cyfnod perthnasol fel bod Atodlen 29 yn cael effaith o ran Cymru hyd at 31 Mawrth 2021. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff 1(1)(b)(ii) ymhellach fel bod Atodlen 29 yn cael effaith, o ran Cymru, hyd at 30 Mehefin 2021. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn diwygio effaith darpariaethau eraill O.S. 2020/778 (Cy. 172) nac O.S. 2020/1044 (Cy. 233) ac maent yn dal i fod mewn grym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.