Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 377 (Cy. 118)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2021

Gwnaed

22 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

24 Mawrth 2021

Yn dod i rym

31 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraffau 1(2) a 14(1) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2021.

Estyn y cyfnod perthnasol yn Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020

2.  Ym mharagraff 1(1)(b)(ii) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(2) (ystyr “the relevant period” o ran Cymru), yn lle “31 March 2021” rhodder “30 June 2021”.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

22 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Atodlen 29”).

Mae Atodlen 29 yn addasu darpariaethau statudol amrywiol, sy’n ymwneud â hysbysiadau y mae angen eu rhoi er mwyn ceisio adennill meddiant o anheddau, yn ystod y cyfnod perthnasol (fel y diffinnir “the relevant period” gan baragraff 1(1) o’r Atodlen honno).

Roedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/778 (Cy. 172)), ac yn rhannol, Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1044 (Cy. 233)), yn diwygio’r addasiadau a wneir gan Atodlen 29.

Roedd y ddarpariaeth a wneir gan Atodlen 29 i ddod i ben ar 30 Medi 2020 (ar ddiwedd y cyfnod perthnasol). Roedd rheoliad 3 o O.S. 2020/1044 (Cy. 233) yn diwygio paragraff 1(1)(b)(ii) o’r diffiniad o’r cyfnod perthnasol fel bod Atodlen 29 yn cael effaith o ran Cymru hyd at 31 Mawrth 2021. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff 1(1)(b)(ii) ymhellach fel bod Atodlen 29 yn cael effaith, o ran Cymru, hyd at 30 Mehefin 2021. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn diwygio effaith darpariaethau eraill O.S. 2020/778 (Cy. 172) nac O.S. 2020/1044 (Cy. 233) ac maent yn dal i fod mewn grym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2020 p. 7. Mae’r pwerau a roddir gan baragraffau 1(2) a 14(1) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn arferadwy gan y “relevant national authority”. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol o ran Cymru (gweler paragraff 1(3) o Atodlen 29 i’r Ddeddf honno).

(2)

Fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1044 (Cy. 233).