2021 Rhif 376 (Cy. 117)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20111, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mawrth 2021.

Diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20212.

Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20212, yn lle “31 Mawrth 2021” rhodder “30 Medi 2021”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379) (Cy. 252).

Mae Rheoliad 2 yn diwygio’r dyddiad yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/1 (Cy. 1)) er mwyn ymestyn effaith y Rheoliadau hynny, sydd, mewn perthynas â mewnforion sy’n tarddu o, neu a gynhyrchir mewn sefydliadau a leolir yn Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaröe, Kalaallit Nunaat (Greenland) neu’r Swistir, yn atal dros dro y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru fod wedi’u rhewi’n ddwfn. Gosodir y gofyniad hwnnw gan Erthygl 3(3) o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd (EUDN 2000/572). Ymestynnir yr ataliad dros dro hyd hanner nos ar 30 Medi 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.