Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021
Enwi a dehongli
1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
- (i)
adran 312(2) o Ddeddf 1996—
- (aa)
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
- (bb)
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
- (aa)
- (ii)
adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
- (i)
adran 312(4) o Ddeddf 1996—
- (aa)
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
- (bb)
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
- (aa)
- (ii)
adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3)
At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)
os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)
os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwyd
2.
Mae gan blentyn “P” “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” at ddibenion y Gorchymyn hwn os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd gan berchennog neu awdurdod lleol sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2021
3.
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 ac eithrio mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn erthygl 4 ar 1 Medi 2021—
(a)
adrannau 2 i 4;
(b)
adrannau 6 i 14;
(c)
adrannau 16 i 36;
(d)
adran 38;
(e)
adrannau 40 i 44;
(f)
adrannau 47 i 49;
(g)
adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h)
adran 50(4) i (5);
(i)
adrannau 51 i 53;
(j)
adran 55;
(k)
adran 59;
(l)
adrannau 63 i 66;
(m)
adrannau 68 i 69;
(n)
adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o)
yn yr Atodlen—
(i)
paragraff 1;
(ii)
paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
(iii)
paragraff 4(2) i 4(8);
(iv)
paragraff 4(9);
(v)
paragraff 4(10);
(vi)
paragraff 4(13) i 4(18);
(vii)
paragraff 4(19)(b);
(viii)
paragraff 4(20) a 4(21);
(ix)
paragraff 4(23) i 4(29);
(x)
paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xi)
paragraff 7;
(xii)
paragraff 8;
(xiii)
paragraff 11(a);
(xiv)
paragraff 12(a);
(xv)
paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
(xvi)
paragraff 14(2) a (3);
(xvii)
paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
(xviii)
paragraff 19(5)(e)(ii);
(xix)
paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
(xx)
paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxi)
paragraff 22;
(xxii)
paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
(xxiii)
paragraff 23(4);
(xxiv)
paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
(xxv)
paragraff 24(2) i (3), (5) a (6)(a).
4.
Person—
(a)
sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
(b)
sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd;
(c)
y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
(d)
y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
(e)
y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i)
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii)
dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(f)
y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
(g)
y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
(i)
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(iii)
dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)
gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu
(bb)
ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(h)
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
(i)
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu
(ii)
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(i)
y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
(j)
(i)
yn mynd rhagddo; neu
(ii)
wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
(k)
y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(l)
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)
nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)
bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)
bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(m)
y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i)
nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii)
bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii)
nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(n)
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)
nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)
bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)
bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)
gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu
(bb)
ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(o)
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)
nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)
bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)
bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
5.
Daw adrannau 40 i 44 o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â phlentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ar 1 Medi 2021.
6.
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn erthygl 7—
(a)
adrannau 2 i 4;
(b)
adrannau 6 i 14;
(c)
adrannau 16 i 36;
(d)
adran 38;
(e)
adrannau 40 i 44;
(f)
adrannau 47 i 49;
(g)
adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h)
adran 50(4) i (5);
(i)
adrannau 51 i 53;
(j)
adran 55;
(k)
adran 59;
(l)
adrannau 63 i 66;
(m)
adrannau 68 i 69;
(n)
adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o)
yn yr Atodlen—
(i)
paragraff 1;
(ii)
paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
(iii)
paragraff 4(2) i 4(8);
(iv)
paragraff 4(9);
(v)
paragraff 4(10);
(vi)
paragraff 4(13) i 4(18);
(vii)
paragraff 4(19)(b);
(viii)
paragraff 4(20) a 4(21);
(ix)
paragraff 4(23) i 4(29);
(x)
paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xi)
paragraff 7;
(xii)
paragraff 8;
(xiii)
paragraff 11(a);
(xiv)
paragraff 12(a);
(xv)
paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
(xvi)
paragraff 14(2) a (3);
(xvii)
paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
(xviii)
paragraff 19(5)(e)(ii);
(xix)
paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
(xx)
paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxi)
paragraff 22;
(xxii)
paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
(xxiii)
paragraff 23(4);
(xxiv)
paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
(xxv)
paragraff 24(2) i (3), (5) a (6)(a).
7.
Person y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio o dan adran 40 neu ei gadw o dan adran 42 o’r Ddeddf mewn perthynas ag ef.
8.
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021—
(a)
adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (b);
(b)
adran 50(2) i 50(3);
(c)
adran 54 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(d)
adran 56 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)
adrannau 57 i 58;
(f)
adrannau 70 i 73;
(g)
adrannau 75 i 81;
(h)
adrannau 83 i 95;
(i)
adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (j);
(j)
yn yr Atodlen—
(i)
paragraff 2(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (ii) i (iii);
(ii)
paragraff 2(2)(b);
(iii)
paragraff 2(3);
(iv)
paragraff 3;
(v)
paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (vi) i (xv);
(vi)
paragraff 4(9) i’r graddau y mae’n hepgor adran 333(1ZA), adran 333(2) i 333(6) ac adrannau 334 i 335;
(vii)
paragraff 4(12);
(viii)
paragraff 4(19)(a);
(ix)
paragraff 4(22);
(x)
paragraff 4(30)(a)(ii) a 4(30)(b);
(xi)
paragraff 4(31);
(xii)
paragraff 4(32)(a)(iii);
(xiii)
paragraff 4(33)(a);
(xiv)
paragraff 4(33)(b) i’r graddau y mae’n hepgor y cofnodion a ganlyn—
“the appropriate national authority (in Chapter 2 of Part 4)”
“the chairman’s panel”
“the lay panel”
“the President”
“the Tribunal”
(xv)
paragraff 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g);
(xvi)
paragraff 6(d)(v) a pharagraffau 6(f) a 6(g);
(xvii)
paragraff 6(j)(i);
(xviii)
paragraff 6(l)(i) a 6(l)(iii);
(xix)
paragraff 6(n)(ii) i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;
(xx)
paragraff 6(t);
(xxi)
paragraff 9;
(xxii)
paragraff 10;
(xxiii)
paragraff 11(b);
(xxiv)
paragraff 12(b);
(xxv)
paragraff 13;
(xxvi)
paragraff 14(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxvii);
(xxvii)
paragraff 14(4);
(xxviii)
paragraff 15(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxix);
(xxix)
paragraffau 15(3) i 15(4);
(xxx)
paragraff 17;
(xxxi)
paragraff 18;
(xxxii)
paragraff 19(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxxiii);
(xxxiii)
paragraffau 19(2), (3), (4), (5)(a) i (d), 5(e)(i), 5(f) i (h) a (6);
(xxxiv)
paragraff 20;
(xxxv)
paragraff 21(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxxvi);
(xxxvi)
paragraff 21(2)(b)(i);
(xxxvii)
paragraff 23(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxxviii);
(xxxviii)
paragraff 23(3)(a) i (c) a (5);
(xxxix)
paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xl);
(xl)
paragraffau 24(4) a (6)(b) ac (c).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â phersonau penodol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud hyn drwy eithrio o’r cychwyn hwnnw bersonau sy’n dod o fewn categori a nodir yn erthygl 4 ar 1 Medi 2021. Mae’r categorïau sydd wedi eu heithrio yn cynnwys y rheini sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a’r rheini sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd (gweler erthygl 2).
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 5 (darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth) i rym ar 1 Medi 2021 ar gyfer y rheini nad ydynt yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 6 hefyd i rym ar 1 Medi 2021 ar gyfer personau y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio neu ei gadw o dan adran 40 neu 42 o’r Ddeddf mewn perthynas â hwy.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 8 i rym yn llawn ar 1 Medi 2021.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 16 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 54 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 56 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 75 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 76 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 77 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 83 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 85 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 91 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 92 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 95 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 |