1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
adran 312(2) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
[F1ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;]
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
adran 312(4) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(2);
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(3) o Ddeddf 1996;
mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(4);
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(5);
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(6);
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 1(2) wedi eu mewnosod (12.8.2021) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 2 a Dirymu Gorchymyn Cychwyn Rhif 3 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/938), ergl. 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 22.3.2021
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.