Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
- (i)
adran 312(2) o Ddeddf 1996—
- (aa)
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
- (bb)
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
- (aa)
- (ii)
adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
F1ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
- (i)
adran 312(4) o Ddeddf 1996—
- (aa)
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
- (bb)
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
- (aa)
- (ii)
adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3)
At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)
os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)
os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.