2021 Rhif 371 (Cy. 114)
Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Bodlonwyd y gofynion sifftio
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru2 ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Ebrill 2021.
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20062
1
Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20064 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau)—
a
ym mharagraff (1), yn lle “(8)” rhodder “(9)”;
b
ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
9
Nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004 nac wedi methu â chydymffurfio â’r Erthygl honno—
a
yn achos marc iechyd neu farc adnabod—
i
os dodwyd y marc iechyd neu’r marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a
ii
os oedd y marc iechyd neu’r marc adnabod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1) fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu
b
os dodir marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20215 i rym a chyn diwedd 30 Medi 2022, yn unol ag Erthygl 5(1), fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, gan ddefnyddio label, deunydd lapio neu ddeunydd pecynnu ac arno’r marc adnabod hwnnw ac sy’n perthyn i’r gweithredwr busnes bwyd yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym 20073
Yn Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym 20076, ar ôl rheoliad 11 mewnosoder—
Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE12
At ddiben rheoliad 9(1), nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i reoliad 5(1), neu wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 5(1), mewn cysylltiad â’r gofynion a nodir mewn perthynas â rheoliad 5(4)(b)—
a
os byddai’r achos honedig o fynd yn groes yn ymwneud â chynnyrch sydd wedi’i roi ar y farchnad ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i rym a chyn diwedd 30 Medi 2022; a
b
os na fyddai’r mater sy’n ffurfio’r achos honedig o fynd yn groes neu’r methiant honedig i gydymffurfio wedi bod yn groes i’r darpariaethau hynny yn y Rheoliadau hyn, neu’n fethiant i gydymffurfio â hwy, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20124
1
Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20127 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 4 (eithriadau), ym mharagraff 10(4), yn lle “, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” rhodder “neu Restr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon”.
Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 20135
Yn Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 20138, ar ôl rheoliad 21 mewnosoder—
Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE22
1
Ni chaiff swyddog awdurdodedig gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 13(2), mewn cysylltiad â’r gofyniad a nodir yn rheoliad 14(1)(d)—
a
os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad ar neu cyn 30 Medi 2022; a
b
os na fyddai’r mater wedi bod yn fethiant i gydymffurfio â’r darpariaethau hynny yn y Rheoliadau hyn fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 7.
Rheoliadau Mêl (Cymru) 20156
Yn Rheoliadau Mêl (Cymru) 20159, ar ôl rheoliad 22 mewnosoder—
Darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE23
1
Ni chaiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17(1)—
a
os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a
b
os na fyddai’r mater a fuasai’n ffurfio’r toriad honedig wedi bod yn drosedd o dan reoliad 17(1) fel yr oedd y ddarpariaeth honno’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2
Ni chaiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17(1)—
a
os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad ar neu cyn 30 Medi 2022;
b
os oes ar y cynnyrch un o’r mynegiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 17(1) fel yr oedd y ddarpariaeth honno’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
c
os na fyddai defnyddio’r mynegiad, pe bai’r cynnyrch wedi ei osod ar y farchnad yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi bod yn doriad o reoliad 17(1) fel yr oedd y ddarpariaeth honno’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a
d
os yw’r mynegiad yn gywir o ran adnabod tarddiad y melau yn y cynnyrch fel melau o’r UE, melau o’r tu allan i’r UE neu felau o’r UE ac o’r tu allan i’r UE, yn ôl y digwydd.
3
Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 19.
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 20167
Yn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 201610, yn Rhan 4, ar ôl rheoliad 10 (y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 1831/2003) mewnosoder—
Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE10A
At ddiben rheoliad 10(1), fel y’i darllenir gyda rheoliad 10(2)(e), nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 16(1)(b) o Reoliad 1831/2003, neu wedi methu â chydymffurfio â’r Erthygl honno—
a
os byddai’r mynd yn groes honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodid ar y farchnad ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i rym a chyn diwedd 30 Medi 2022; a
b
os na fyddai’r mater a fuasai’n ffurfio’r mynd yn groes honedig neu’r methiant honedig i gydymffurfio wedi bod yn groes i’r Erthygl honno, neu’n fethiant i gydymffurfio â hi, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 20168
Yn Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 201611, ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—
Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE10
1
Ni chaiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 6(1)(d) neu (e)—
a
os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad ar neu cyn 30 Medi 2022; a
b
os na fyddai’r mater a fuasai’n ffurfio’r methiant honedig i gydymffurfio wedi bod yn fethiant i gydymffurfio â rheoliad 6(1)(d) neu (e) (yn ôl y digwydd) fel yr oedd y darpariaethau hynny’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 8.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)