2021 Rhif 371 (Cy. 114)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Hadau, Cymru

Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Bodlonwyd y gofynion sifftio
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru2 ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.