2021 Rhif 368 (Cy. 113)
Pysgodfeydd Môr, Cymru

Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 294(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 20091, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2)

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Ebrill 2021.

Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 20192.

(1)

Mae Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 20192 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn yr Atodlen (troseddau sy’n ymwneud â physgota môr)—

(a)

ym mharagraff 2, hepgorer is-baragraff (d);

(b)

hepgorer paragraff 4;

(c)

yn lle paragraff 6 rhodder—

“6.

Yn Neddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, trosedd o dan—

(a)

adran 139(1)(b) (y drosedd o dorri is-ddeddfau neu orchmynion)3, i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw orchymyn a wneir o dan—

(i)

adran 134A (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: Cymru)4;

(ii)

adran 134B (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: rhanbarth môr mawr Cymru)5;

(iii)

adran 136(1A) (gorchmynion interim)6;

(b)

adran 190 (troseddau)7.”;

(d)

ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

“8A.

Yn Neddf Pysgodfeydd 20208, trosedd o dan—

(a)

adran 12(3) (mynediad i bysgodfeydd Prydain gan gychod pysgota tramor);

(b)

adran 14(6) (cychod pysgota Prydeinig y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu);

(c)

adran 16(6) (cychod pysgota tramor y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu os ydynt o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain);

(d)

paragraff 1(4) o Atodlen 3 (pŵer i osod amodau ynghlwm wrth drwydded pysgota môr).”

Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/363) (Cy. 86) (“Gorchymyn 2019”) o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed gan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) (“Deddf 2020”).

Mae Gorchymyn 2019 yn creu cynllun ar gyfer dyroddi a thalu hysbysiadau cosb ynglŷn â throseddau penodol yn ymwneud â physgota môr (“troseddau cosb”).

Mae Deddf 2020 yn gwneud darpariaeth ar gyfer mynediad llestrau tramor i bysgodfeydd yng Nghymru ac ym mharth Cymru, ac ar gyfer trwyddedu llestrau pysgota gan Weinidogion Cymru. Mae hefyd yn dirymu darpariaethau mewn deddfwriaeth arall a oedd yn llywodraethu’r materion hynny. Mae’r Gorchymyn hwn felly yn diweddaru’r rhestr o droseddau cosb sydd wedi ei chynnwys yng Ngorchymyn 2019 drwy ddileu cyfeiriadau at ddarpariaethau trosedd sydd wedi eu dirymu gan ddarpariaethau yn Neddf 2020 a chynnwys cyfeiriadau at y darpariaethau newydd perthnasol.

Mae Deddf 2020 hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr ac mae’n darparu ei bod yn drosedd torri’r gorchmynion hynny. Mae’r Gorchymyn hwn felly yn ychwanegu’r drosedd honno at y rhestr o droseddau cosb a bennir yng Ngorchymyn 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.