NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/363) (Cy. 86) (“Gorchymyn 2019”) o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed gan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) (“Deddf 2020”).

Mae Gorchymyn 2019 yn creu cynllun ar gyfer dyroddi a thalu hysbysiadau cosb ynglŷn â throseddau penodol yn ymwneud â physgota môr (“troseddau cosb”).

Mae Deddf 2020 yn gwneud darpariaeth ar gyfer mynediad llestrau tramor i bysgodfeydd yng Nghymru ac ym mharth Cymru, ac ar gyfer trwyddedu llestrau pysgota gan Weinidogion Cymru. Mae hefyd yn dirymu darpariaethau mewn deddfwriaeth arall a oedd yn llywodraethu’r materion hynny. Mae’r Gorchymyn hwn felly yn diweddaru’r rhestr o droseddau cosb sydd wedi ei chynnwys yng Ngorchymyn 2019 drwy ddileu cyfeiriadau at ddarpariaethau trosedd sydd wedi eu dirymu gan ddarpariaethau yn Neddf 2020 a chynnwys cyfeiriadau at y darpariaethau newydd perthnasol.

Mae Deddf 2020 hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr ac mae’n darparu ei bod yn drosedd torri’r gorchmynion hynny. Mae’r Gorchymyn hwn felly yn ychwanegu’r drosedd honno at y rhestr o droseddau cosb a bennir yng Ngorchymyn 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.