2021 Rhif 368 (Cy. 113)
Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 294(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 20091, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) (Diwygio) 2021.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Ebrill 2021.
Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 20192
1
Mae Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 20192 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn yr Atodlen (troseddau sy’n ymwneud â physgota môr)—
a
ym mharagraff 2, hepgorer is-baragraff (d);
b
hepgorer paragraff 4;
c
yn lle paragraff 6 rhodder—
6
Yn Neddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, trosedd o dan—
a
adran 139(1)(b) (y drosedd o dorri is-ddeddfau neu orchmynion)3, i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw orchymyn a wneir o dan—
i
adran 134A (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: Cymru)4;
ii
adran 134B (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: rhanbarth môr mawr Cymru)5;
iii
adran 136(1A) (gorchmynion interim)6;
b
adran 190 (troseddau)7.
d
ar ôl paragraff 8 mewnosoder—
8A
Yn Neddf Pysgodfeydd 20208, trosedd o dan—
a
adran 12(3) (mynediad i bysgodfeydd Prydain gan gychod pysgota tramor);
b
adran 14(6) (cychod pysgota Prydeinig y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu);
c
adran 16(6) (cychod pysgota tramor y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu os ydynt o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain);
d
paragraff 1(4) o Atodlen 3 (pŵer i osod amodau ynghlwm wrth drwydded pysgota môr).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)