2.—(1) Mae Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (troseddau sy’n ymwneud â physgota môr)—
(a)ym mharagraff 2, hepgorer is-baragraff (d);
(b)hepgorer paragraff 4;
(c)yn lle paragraff 6 rhodder—
“6. Yn Neddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, trosedd o dan—
(a)adran 139(1)(b) (y drosedd o dorri is-ddeddfau neu orchmynion)(2), i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw orchymyn a wneir o dan—
(i)adran 134A (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: Cymru)(3);
(ii)adran 134B (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: rhanbarth môr mawr Cymru)(4);
(iii)adran 136(1A) (gorchmynion interim)(5);
(b)adran 190 (troseddau)(6).”;
(d)ar ôl paragraff 8 mewnosoder—
“8A. Yn Neddf Pysgodfeydd 2020(7), trosedd o dan—
(a)adran 12(3) (mynediad i bysgodfeydd Prydain gan gychod pysgota tramor);
(b)adran 14(6) (cychod pysgota Prydeinig y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu);
(c)adran 16(6) (cychod pysgota tramor y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu os ydynt o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain);
(d)paragraff 1(4) o Atodlen 3 (pŵer i osod amodau ynghlwm wrth drwydded pysgota môr).”
O.S. 2019/363 (Cy. 86), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/602 (Cy. 127).
Diwygiwyd adran 139(1)(b) gan baragraff 23(2)(b) o Atodlen 10 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) (“Deddf 2020”).
Mewnosodwyd adran 134A gan baragraff 17 o Atodlen 10 i Ddeddf 2020.
Mewnosodwyd adran 134B gan baragraff 17 o Atodlen 10 i Ddeddf 2020.
Mewnosodwyd adran 136(1A) gan baragraff 19(2) o Atodlen 10 i Ddeddf 2020.
Diwygiwyd adran 190 gan O.S. 2015/664.