Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 20192.
(1)
Mae Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 20192 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn yr Atodlen (troseddau sy’n ymwneud â physgota môr)—
(a)
ym mharagraff 2, hepgorer is-baragraff (d);
(b)
hepgorer paragraff 4;
(c)
yn lle paragraff 6 rhodder—
“6.
Yn Neddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, trosedd o dan—
(a)
adran 139(1)(b) (y drosedd o dorri is-ddeddfau neu orchmynion)3, i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw orchymyn a wneir o dan—(i)
adran 134A (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: Cymru)4;(ii)
adran 134B (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: rhanbarth môr mawr Cymru)5;(iii)
adran 136(1A) (gorchmynion interim)6;(b)
adran 190 (troseddau)7.”;
(d)
ar ôl paragraff 8 mewnosoder—
“8A.
Yn Neddf Pysgodfeydd 20208, trosedd o dan—(a)
adran 12(3) (mynediad i bysgodfeydd Prydain gan gychod pysgota tramor);
(b)
adran 14(6) (cychod pysgota Prydeinig y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu);
(c)
adran 16(6) (cychod pysgota tramor y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu os ydynt o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain);
(d)
paragraff 1(4) o Atodlen 3 (pŵer i osod amodau ynghlwm wrth drwydded pysgota môr).”