NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) yn nodi’r gofynion hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae’r gofynion hyfforddi mewn perthynas â data perfformiad ysgolion wedi eu nodi ar hyn o bryd mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion”, y cyfeirir ati yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“dogfen 2018”) yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r diffiniad hwnnw er mwyn rhoi yn lle’r cyfeiriad at Ddogfen 2018 gyfeiriad at yr hyfforddiant newydd ar ddata perfformiad ysgolion a nodir mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru: deall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion” a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020 (“dogfen 2020”). Gellir ei gweld ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod llywodraethwyr ysgol a gwblhaodd yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn nogfen 2020, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, i’w trin fel pe baent yn bodloni’r gofynion hyfforddi ar ddata perfformiad ysgolion o dan Reoliadau 2013.

Mae rheoliad 4 yn cynnwys darpariaeth arbed y mae ganddi’r effaith fel nad oes rhaid i lywodraethwyr ysgol presennol gwblhau’r hyfforddiant yn nogfen 2020 os ydynt eisoes wedi cwblhau’r hyfforddiant sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.