(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddarparu y caiff person y mae’n ofynnol iddo ynysu adael ei fangre ynysu os yw cwnstabl yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn esempt sy’n dod i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Ryngwladol o fewn 10 niwrnod o gyrraedd. Mae’r personau hynny wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru. Mae person sy’n torri’r gwaharddiad hwn yn agored i hysbysiad cosb benodedig o £10,000. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â’r gofynion ynysu sydd ar y personau hynny ac unrhyw aelod o’u haelwydydd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i esemptio personél hedfan a phersonél morwrol penodol rhag y gwaharddiad rhag dod i Gymru.
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r pwerau gorfodi sydd ar gael o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewn perthynas â’r gofynion i hunanynysu. Mae’n caniatáu i swyddogion yr heddlu gyfarwyddo personau neu eu symud ymaith i le y maent yn ynysu ynddo os ydynt yn amau’n rhesymol bod y person yn torri gofyniad i ynysu. Mae hefyd yn darparu pwerau i bersonau awdurdodedig gan gynnwys yr heddlu, swyddogion mewnfudo, a phersonau eraill a ddynodir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn esempt yr amheuir eu bod yn dod i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A. Mae’r pwerau hyn yn cynnwys pwerau i gyfarwyddo, cadw a chynnal chwiliad.
Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir o fewn 10 niwrnod o gyrraedd yn unol â rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 6 yn hepgor Portiwgal a Gweriniaeth Mauritius o’r Rhestr yn Atodlen 3A, ac yn ychwanegu Ethiopia, Oman, Qatar a Somalia ati.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.