Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 361 (Cy. 110)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021

Gwnaed

am 4.03 p.m. ar 19 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 6.00 p.m. ar 19 Mawrth 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 20 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei roi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.