Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 60M(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgor corfforedig, y mae Rhan 6 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, lunio cynllun datblygu strategol (“CDS”) ar gyfer ei ardal.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer llunio a diwygio CDS ac ar gyfer materion cysylltiedig.

Mae Rhan 1 yn ymdrin â materion cyffredinol, gan gynnwys cymhwyso’r Rheoliadau hyn, dehongli ymadroddion amrywiol a defnyddio cyfathrebiadau electronig.

Mae Rhan 2 yn ymdrin â llunio a diwygio CDS, ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â materion gan gynnwys—

  • darparu dogfennaeth a dynodi’r cyrff ymgynghori (Pennod 1),

  • y cytundeb cyflawni (Pennod 2),

  • ffurf a chynnwys CDS a materion cysylltiedig (Pennod 3),

  • y weithdrefn cyn adneuo, sy’n ymwneud â llunio cynigion mewn cysylltiad ag CDS ac ymgynghori ac ymgysylltu mewn cysylltiad â’r cynigion hynny (Pennod 4),

  • y weithdrefn adneuo, y mae rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig adneuo ei gynigion ar gyfer CDS yn unol â hi at ddiben ymgynghori pellach (Pennod 5),

  • yr archwiliad annibynnol o’r CDS gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru (Pennod 6),

  • pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd (Pennod 7),

  • tynnu CDS yn ôl (Pennod 8), a

  • mabwysiadu CDS gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru (Pennod 9).

Mae Rhan 3 yn ymdrin â’r camau y mae rhaid eu cymryd ar ôl i CDS gael ei ddirymu.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu CDS bob chwe mlynedd.

Mae Rhan 5 yn ymdrin â chynnwys adroddiad monitro blynyddol a’i gyhoeddi.

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer gofynion o ran argaeledd dogfennau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.