2021 Rhif 360 (Cy. 109)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 60M(5) a (6)(f), 66A(6)(b), (8) a (9), 69(1)(b) a (3), 76(2) a (3) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 20041 a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 63(3)(a) a (7), 64(3) a 77(1) o’r Ddeddf honno, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy (fel y’u cymhwysir yn achos adrannau 63(3)(a) a (7), 64(3), 66A(6)(b), (8) a (9), 69(1)(b) a (3), 76(2) a (3), 77(1) a 122(3) gan adran 60N o’r Ddeddf honno), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2022.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â diwygio CDS o dan adran 70(1) o Ddeddf 2004 yn yr un modd ag y maent yn gymwys mewn perthynas â llunio CDS o dan adran 60M(1) o’r Ddeddf honno.

Dehongli2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ACLl” (“LPA”) yw awdurdod cynllunio lleol fel y’i dehonglir yn unol â Rhan 1 o Ddeddf 1990;

mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeiladwaith (gan gynnwys unrhyw estyniad, addasiad neu ailadeiladwaith), ac unrhyw ran o adeilad, fel y’i diffinnir yn y modd hwnnw, ond nid yw’n cynnwys cyfarpar neu beiriannau a gynhwysir mewn adeilad;

ystyr “adroddiad adolygu” (“review report”) yw’r adroddiad sy’n ofynnol gan adran 69(2) o Ddeddf 2004 yn dilyn cynnal adolygiad o dan adran 69(1) o’r Ddeddf honno;

ystyr “adroddiad arfarnu cynaliadwyedd” (“sustainability appraisal report”) yw’r adroddiad y cyfeirir ato yn adran 60M(7)(b) o Ddeddf 2004, ynghyd ag unrhyw adroddiad amgylcheddol sy’n ofynnol o dan ddarpariaethau Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 20042;

ystyr “adroddiad monitro blynyddol” (“annual monitoring report”) yw’r adroddiad blynyddol sy’n ofynnol gan adran 76(1) o Ddeddf 2004;

mae i “adroddiad ymgynghori cychwynnol” (“initial consultation report”) yr ystyr a roddir gan reoliad 20(a);

ystyr “amserlen” (“timetable”) yw’r amserlen y cyfeirir ati yn adran 63(1)(b) o Ddeddf 2004;

ystyr “arolygu” (“inspection”) yw arolygu gan y cyhoedd;

ystyr “CBC” (“CJC”) yw’r cyd-bwyllgor corfforedig, o fewn ystyr adran 74 o Ddeddf 2021, ac y mae Rhan 6 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021, sy’n llunio CDS;

ystyr “CDS” (“SDP”) yw cynllun datblygu strategol fel y darperir ar ei gyfer yn adran 60M o Ddeddf 2004;

mae i “cofrestr y lleoliadau a’r safleoedd strategol ymgeisiol” (“candidate strategic locations and sites register”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 16(1)(d);

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20003;

ystyr “cyfeiriad” (“address”), o ran cyfathrebiadau electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath;

mae i “cynllun cynnwys cymunedau” yr ystyr a roddir i “community involvement scheme” yn adran 63(2) o Ddeddf 2004;

mae i “cyrff ymgynghori cyffredinol” (“general consultation bodies”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

mae i “cyrff ymgynghori penodol” (“specific consultation bodies”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6;

ystyr “cytundeb cyflawni” (“delivery agreement”) yw’r cytundeb sy’n cynnwys yr eitemau hynny a ddisgrifir yn rheoliad 11(1);

mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55(1) o Ddeddf 19904;

mae i “datganiad o faterion adneuo” (“statement of deposit matters”) yr ystyr a roddir gan reoliad 20(c);

mae i “datganiad o faterion cyn-adneuo” (“statement of pre-deposit matters”) yr ystyr a roddir gan reoliad 18(1);

ystyr “Deddf 1990” (“1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 19905;

ystyr “Deddf 2004” (“2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

ystyr “Deddf 2021” (“2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20216;

mae i “dogfennau cynigion yr CDS” (“SDP proposals documents”) yr ystyr ar roddir gan reoliad 20(b);

mae i “dogfennau cynigion cyn-adneuo” (“pre-deposit proposals documents”) yr ystyr a roddir gan reoliad 17;

ystyr “gweithdrefn yr CDS” (“SDP procedure”) yw’r weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Rhan 6 o Ddeddf 2004 ac yn y Rheoliadau hyn;

ystyr “person a benodwyd” (“appointed person”) yw person a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 64(4) o Ddeddf 2004;

ystyr “tir” (“land”) yw unrhyw hereditament corfforol ac mae’n cynnwys adeilad.

(2)

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at—

(a)

unrhyw ddarpariaeth yn Neddf 2004, ac eithrio at unrhyw ddarpariaeth yn adran 60M o’r Ddeddf honno, yn gyfeiriad at y ddarpariaeth o dan sylw fel y mae’n gymwys yn rhinwedd adran 60N o’r Ddeddf honno;

(b)

ardal yr CBC yn gyfeiriad at yr ardal y mae’r CBC yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 74 o Ddeddf 2021.

Cyfathrebiadau electronig3.

(1)

Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)

pan fo’n ofynnol i berson —

(i)

anfon dogfen, copi o ddogfen neu unrhyw hysbysiad at berson arall, neu

(ii)

rhoi gwybod i berson arall am unrhyw fater, a

(b)

pan fo’r person arall hwnnw wedi darparu cyfeiriad at ddibenion cyfathrebiadau electronig.

(2)

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caniateir anfon y ddogfen, y copi neu’r hysbysiad neu roi’r wybodaeth ar ffurf cyfathrebiad electronig.

(3)

Pan gaiff person roi ymateb neu gyflwyno sylwadau ar unrhyw fater neu ddogfen, caniateir rhoi’r ymatebion hynny neu gyflwyno’r sylwadau hynny ar ffurf cyfathrebiad electronig.

(4)

Pan fo—

(a)

cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio o dan baragraff (2) neu (3), a

(b)

y derbynnydd yn cael y cyfathrebiad y tu allan i oriau swyddfa arferol y person hwnnw,

cymerir bod y derbynnydd wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.

RHAN 2Gweithdrefn yr CDS: ei lunio

Pennod 1Cyffredinol a rhagarweiniol

Y dogfennau sydd i’w darparu i Weinidogion Cymru4.

Rhaid i’r CBC ddarparu i Weinidogion Cymru gopi o bob hysbysiad a phob datganiad a gyhoeddwyd gan yr CBC yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r hysbysiad neu’r datganiad o dan sylw gael ei gyhoeddi gyntaf, ynghyd â chopi o bob dogfen a roddwyd ar gael i’w harolygu yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Cyrff ymgynghori cyffredinol5.

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cyrff ymgynghori cyffredinol” yw—

(a)

cyrff gwirfoddol, y mae rhai o’u gweithgareddau neu’r cyfan ohonynt yn fuddiol i unrhyw ran o ardal yr CBC,

(b)

cyrff sy’n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau hiliol, ethnig neu genedlaethol mewn unrhyw ran o ardal yr CBC,

(c)

cyrff sy’n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau crefyddol mewn unrhyw ran o ardal yr CBC,

(d)

cyrff sy’n cynrychioli buddiannau pobl anabl, o fewn ystyr adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 20107, mewn unrhyw ran o ardal yr CBC,

(e)

cyrff sy’n cynrychioli buddiannau personau sy’n rhedeg busnesau mewn unrhyw ran o ardal yr CBC, ac

(f)

cyrff sy’n cynrychioli buddiannau’r diwylliant Cymreig mewn unrhyw ran o ardal yr CBC.

Cyrff ymgynghori penodol6.

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cyrff ymgynghori penodol” yw—

(a)

Cyfoeth Naturiol Cymru;

(b)

Gweinidogion Cymru;

(c)

unrhyw ACLl yng Nghymru y mae ei ardal, neu unrhyw ran o’i ardal, yn ardal yr CBC neu’n cydffinio â hi;

(d)

unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru y mae ei ardal, neu unrhyw ran o’i ardal, yn ardal yr CBC neu’n cydffinio â hi;

(e)

unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig arall o fewn ystyr adran 68 o Ddeddf 2021 sydd, yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 72 neu 74 o Ddeddf 2021, yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ardal sy’n cydffinio ag ardal yr CBC;

(f)

unrhyw berson—

(i)

y mae’r cod cyfathrebiadau electronig, fel y diffinnir “the electronic communications code” yn adran 106(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 20038 yn gymwys iddo yn rhinwedd cyfarwyddyd a roddir o dan adran 106(3)(a) o’r Ddeddf honno, a

(ii)

sy’n meddu ar gyfarpar cyfathrebu electronig, o fewn ystyr “electronic communications apparatus” ym mharagraff 5 o’r cod cyfathrebiadau electronig, sydd wedi ei leoli mewn unrhyw ran o ardal yr CBC, neu’n rheoli cyfarpar o’r fath (pan fo’n wybyddus);

(g)

os yw’n arfer swyddogaethau mewn unrhyw ran o ardal yr CBC—

(i)

bwrdd iechyd lleol a sefydlwyd o dan adran 11(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20069, neu y mae ei sefydlu yn cael effaith fel pe bai wedi ei sefydlu o dan yr adran honno;

(ii)

person y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 6(1)(b) neu (c) o Ddeddf Trydan 198910;

(iii)

person y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 7(2) o Ddeddf Nwy 198611;

(iv)

ymgymerwr carthffosiaeth a benodwyd o dan adran 6(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 199112;

(v)

ymgymerwr dŵr a benodwyd o dan yr adran honno.

Pennod 2Cytundeb cyflawni

Llunio cynllun cynnwys cymunedau7.

Y personau y mae rhaid i’r CBC ymgysylltu â hwy wrth lunio cynllun cynnwys cymunedau yw’r cyrff ymgynghori cyffredinol hynny y mae’n ymddangos i’r CBC fod ganddynt fuddiant mewn materion sy’n ymwneud â datblygu yn ardal yr CBC.

Cynnwys cynllun cynnwys cymunedau8.

Rhaid i gynllun cynnwys cymunedau gynnwys y canlynol—

(a)

rhestr o’r holl gyrff ymgynghori cyffredinol a’r holl gyrff ymgynghori penodol hynny sydd i’w cynnwys wrth i swyddogaethau’r CBC gael eu harfer o dan Ran 6 o Ddeddf 2004;

(b)

egwyddorion y polisi sydd i’w fabwysiadu gan yr CBC at ddiben ceisio cynnwys cyrff ymgynghori cyffredinol, cyrff ymgynghori penodol ac unrhyw berson o fewn adran 63(3)(b) o Ddeddf 2004 wrth arfer swyddogaethau’r CBC o dan Ran 6 o’r Ddeddf honno;

(c)

manylion yr amseriad a’r dull a ddefnyddir—

(i)

er mwyn ceisio cynnwys cymunedau ac ym mha gam arfaethedig o weithdrefn yr CDS y gwneir hynny, a

(ii)

gan yr CBC er mwyn ymateb i’r materion a godir;

(d)

manylion ynghylch sut y bydd yr CBC yn defnyddio’r ymatebion a’r sylwadau y mae’n eu cael, ac ym mha gam arfaethedig, wrth ddatblygu cynnwys ei CDS.

Llunio’r amserlen9.

Y personau y mae rhaid i’r CBC ymgynghori â hwy wrth lunio’r amserlen yw’r cyrff ymgynghori penodol.

Cynnwys yr amserlen10.

Rhaid i’r amserlen gynnwys pob dyddiad allweddol, gan gynnwys—

(a)

dyddiad pendant ar gyfer pob cam arfaethedig o weithdrefn yr CDS hyd at a chan gynnwys y cam sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno’r CDS i Weinidogion Cymru ar gyfer archwiliad annibynnol o dan adran 64(1) o Ddeddf 2004,

(b)

dyddiadau dangosol ar gyfer pob cam arfaethedig o weithdrefn yr CDS, ac eithrio’r rhai sy’n dod o fewn paragraff (a), hyd at a chan gynnwys y cam o fabwysiadu’r CDS o dan adran 67(3) o’r Ddeddf honno, ac

(c)

y rhai mewn cysylltiad â llunio a chyhoeddi—

(i)

yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd, a

(ii)

yr adroddiad monitro blynyddol.

Cytundeb cyflawni11.

(1)

Mae cytundeb cyflawni yn cynnwys y cynllun cynnwys cymunedau a luniwyd yn unol â rheoliad 8 a’r amserlen a luniwyd yn unol â rheoliad 10.

(2)

Rhaid i’r cytundeb cyflawni gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad yr CBC ac yna cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru iddynt gytuno arno.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru ymateb o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y maent yn cael y cytundeb cyflawni.

(4)

Os yw Gweinidogion Cymru yn methu ag ymateb o fewn y cyfnod hwnnw, bernir bod y cytundeb cyflawni wedi ei gytuno ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6).

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru hysbysu’r CBC yn ysgrifenedig bod arnynt angen hyd at 12 wythnos bellach, yn ychwanegol at yr amser ym mharagraff (3), i ystyried y cytundeb.

(6)

Os yw Gweinidogion Cymru yn methu ag ymateb o fewn y cyfnod yr hysbysir yn ei gylch o dan baragraff (5), bernir bod y cytundeb cyflawni wedi ei gytuno ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(7)

Ni chaiff yr CBC gymryd unrhyw gamau o dan Bennod 4 hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi cytuno ar y cytundeb cyflawni, neu hyd nes y bernir bod y cytundeb cyflawni wedi ei gytuno.

(8)

Rhaid i’r CBC adolygu’r cytundeb cyflawni yn rheolaidd a rhaid i unrhyw ddiwygiad gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad yr CBC a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru iddynt gytuno arno.

(9)

Mae paragraffau (3) i (8) yn gymwys i unrhyw ddiwygiad i’r cytundeb cyflawni yn yr un modd ag y maent yn gymwys i lunio’r cytundeb.

(10)

Rhaid i’r CBC, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cytundeb cyflawni neu ddiwygiad i’r cytundeb cyflawni gael ei gytuno, neu y bernir ei fod wedi ei gytuno, hysbysu—

(a)

y cyrff ymgynghori penodol, a

(b)

y cyrff ymgynghori cyffredinol hynny y mae’r CBC yn ystyried eu bod yn briodol.

(11)

Nid oes angen i’r CBC gydymffurfio â gofyniad penodol yn ei gynllun cynnwys cymunedau os oes ganddo sail resymol dros gredu nad yw peidio â chydymffurfio yn debygol o ragfarnu cyfle unrhyw berson i fod yn rhan o arfer swyddogaethau’r CBC o dan Ran 6 o Ddeddf 2004.

Argaeledd cytundeb cyflawni12.

(1)

Pan fo cytundeb cyflawni yn cael ei gytuno neu pan fernir ei fod wedi ei gytuno yn unol â rheoliad 11, rhaid i’r CBC—

(a)

rhoi copi o’r cytundeb ar gael i’w arolygu yn ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol, a

(b)

cyhoeddi’r cytundeb ar ei wefan.

(2)

Pan fo diwygiad i gytundeb cyflawni yn cael ei gytuno neu pan fernir ei fod wedi ei gytuno yn unol â rheoliad 11, rhaid i’r CBC gydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff (1) o fewn y cyfnod o ddwy wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad pan fo diwygiad i’r cytundeb cyflawni’n cael ei gytuno neu pan fernir ei fod wedi ei gytuno.

Pennod 3Ffurf a chynnwys CDS

Ffurf a chynnwys13.

(1)

Rhaid i CDS gynnwys—

(a)

teitl sydd—

(i)

yn rhoi enw’r ardal y mae’r CDS yn cael ei lunio ar ei chyfer, a

(ii)

yn pennu mai CDS ydyw;

(b)

is-deitl sy’n pennu—

(i)

y dyddiad y’i mabwysiadwyd neu y’i cymeradwywyd a’r dyddiad y mae’r cyfnod y mae’n cael effaith mewn perthynas ag ef yn dod i ben, neu

(ii)

pan fo’n CDS sydd wrthi’n ymddangos—

(aa)

y cyfnod y bwriedir iddo gael effaith mewn perthynas ag ef,

(bb)

y cam y mae wedi ei gyrraedd, ac

(cc)

dyddiad ei gyhoeddi;

(c)

cyfiawnhad rhesymedig o’r polisïau sydd wedi eu cynnwys ynddo.

(2)

Rhaid bod modd gwahaniaethu’n rhwydd rhwng y rhannau hynny o’r CDS sy’n cynnwys ei bolisïau fel sy’n ofynnol gan adran 60M(2)(b) o Ddeddf 2004 a’r rhannau hynny sy’n cynnwys y cyfiawnhad rhesymedig sy’n ofynnol gan baragraff (1)(c).

(3)

Yn y rheoliad hwn, ystyr “CDS sydd wrthi’n ymddangos” yw dogfen a gynigir fel naill ai CDS neu ddiwygiad i CDS—

(a)

a roddir ar gael i’w harolygu ac sy’n cael ei chyhoeddi yn unol â rheoliad 18, 21 neu 23, a

(b)

nad yw wedi cael ei mabwysiadu gan yr CBC o dan adran 67(3) o Ddeddf 2004 nac wedi ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 65(9)(a) neu 71(4)(b) o’r Ddeddf honno.

Map cynigion14.

(1)

Rhaid i’r CDS gynnwys map o’r enw “map cynigion” o ardal yr CBC—

(a)

sydd—

(i)

yn cael ei atgynhyrchu o fap a luniwyd gan yr Arolwg Ordnans, neu’n seiliedig ar fap o’r fath, neu

(ii)

yn fap ar sail debyg gyda graddfa gofrestredig, a

(b)

sy’n dangos—

(i)

polisïau sydd â goblygiadau gofodol ar gyfer datblygu tir yn yr ardal honno, a

(ii)

llinellau a rhifau cyfeirnod y Grid Cenedlaethol.

(2)

Caniateir i bolisïau ar gyfer unrhyw ran o ardal yr CBC gael eu darlunio ar fap ar wahân ar raddfa sy’n fwy nag ar gyfer map cynigion (“map mewnosod”).

(3)

Pan fo map mewnosod wedi ei gynnwys mewn CDS, rhaid i’r ardal y mae’r map mewnosod yn ei chwmpasu gael ei dynodi ar y map cynigion a rhaid i’r polisïau ar gyfer yr ardal honno gael eu darlunio ar y map mewnosod hwnnw yn unig.

(4)

Rhaid i deitl (ac unrhyw is-deitl) CDS gael ei nodi ar y map cynigion ac ar unrhyw fap mewnosod.

(5)

Rhaid i’r map cynigion ac unrhyw fap mewnosod ddangos ar ba raddfa y mae wedi ei lunio a chynnwys esboniad o unrhyw symbol neu nodiant a ddefnyddir ar y map.

Materion ychwanegol y mae rhaid i’r CBC roi sylw iddynt15.

(1)

Mae’r materion a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 60M(6)(f) o Ddeddf 2004—

(a)

unrhyw bolisïau a ddatblygwyd o dan is-adran (1) neu (2A) o adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 200013 (boed hynny o dan yr is-adrannau hynny fel y’u haddaswyd gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021 neu fel arall) sy’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr CBC;

(b)

amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar gyfer iechyd pobl a’r amgylchedd;

(c)

yr angen, yn y tymor hir—

(i)

i gadw pellteroedd diogelwch priodol rhwng sefydliadau ac ardaloedd preswyl, adeiladau ac ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd, ardaloedd hamdden a, chyn belled ag y bo’n bosibl, llwybrau trafnidiaeth pwysig;

(ii)

i warchod ardaloedd o sensitifrwydd neu ddiddordeb naturiol arbennig yng nghyffiniau sefydliadau, pan fo hynny’n briodol, drwy bellteroedd diogelwch priodol neu fesurau perthnasol eraill;

(iii)

yn achos sefydliadau sy’n bodoli eisoes, i hwyluso ac i annog gweithredwyr i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i atal damweiniau mawr ac i gyfyngu ar eu canlyniadau ar gyfer iechyd pobl a’r amgylchedd;

(d)

y cynllun rheoli gwastraff cenedlaethol o fewn yr ystyr a roddir i “national waste management plan” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 201114 ac a luniwyd gan Weinidogion Cymru;

(e)

unrhyw gynllun morol a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 51(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 200915 sy’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr CBC.

(2)

Mae i’r ymadroddion sydd ym mharagraff (1) ac yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU16 yr un ystyr ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

Pennod 4Cyn adneuo

Cyfranogi cyn adneuo16.

(1)

Cyn bod yr CBC yn cydymffurfio â rheoliad 18, rhaid iddo—

(a)

ymgysylltu â’r cyrff a ganlyn er mwyn llunio strategaethau ac opsiynau eraill—

(i)

pob un o’r cyrff ymgynghori penodol i’r graddau y mae’n ystyried bod pwnc yr CDS yn effeithio ar y cyrff hynny, a

(ii)

y cyrff ymgynghori cyffredinol hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol;

(b)

gofyn am enwebiadau ar gyfer lleoliadau a safleoedd strategol y cynigir eu cynnwys yn yr CDS, gan ddatgan erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i’r enwebiadau ddod i law’r CBC;

(c)

cyhoeddi’r cais am enwebiadau ar ei wefan a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol;

(d)

llunio rhestr o’r holl leoliadau a’r holl safleoedd a enwebwyd (“cofrestr y lleoliadau a’r safleoedd strategol ymgeisiol”).

(2)

Rhaid i’r CBC ystyried unrhyw leoliadau a safleoedd a enwebwyd yn y modd hwnnw cyn penderfynu ar gynnwys yr CDS sydd i’w adneuo o dan reoliad 21.

Dogfennau cynigion cyn-adneuo17.

Rhaid i’r CBC lunio dogfennau o’r enw “dogfennau cynigion cyn-adneuo” sy’n cynnwys—

(a)

y strategaeth a ffefrir ganddo, yr opsiynau strategol a’r cynigion ar gyfer ei CDS,

(b)

disgrifiad o’u goblygiadau, gan gynnwys disgrifiad penodol o unrhyw ddulliau eraill a ystyriwyd a’u goblygiadau;

(c)

cofrestr y lleoliadau a’r safleoedd strategol ymgeisiol,

(d)

unrhyw adroddiad adolygu perthnasol, ac

(e)

unrhyw ddogfennau y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol er mwyn ategu’r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c).

Ymgynghori â’r cyhoedd cyn adneuo18.

(1)

Rhaid i’r CBC lunio datganiad o’r enw “datganiad o faterion cyn-adneuo” sy’n cynnwys—

(a)

teitl yr CDS;

(b)

y cyfnod y caniateir i sylwadau ar y cynigion gael eu cyflwyno ynddo yn unol â rheoliad 19(1);

(c)

y cyfeiriad y mae rhaid anfon sylwadau iddo a, phan fo’n briodol, y person y mae rhaid eu hanfon ato;

(d)

datganiad y caniateir anfon, gydag unrhyw sylwadau, gais bod y person sy’n cyflwyno’r sylwadau yn cael ei hysbysu mewn cyfeiriad penodedig os digwydd unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn—

(i)

bod yr CDS wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar gyfer archwiliad annibynnol o dan adran 64(1) o Ddeddf 2004;

(ii)

bod yr CDS wedi ei fabwysiadu o dan adran 67(3) o Ddeddf 2004;

(iii)

bod yr CDS wedi ei gymeradwyo o dan adran 65(9)(a) neu 71(4)(b) o Ddeddf 2004.

(2)

Cyn i CBC adneuo ei CDS yn unol â rheoliad 21, rhaid iddo—

(a)

rhoi copïau o’r dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu yn ystod oriau swyddfa arferol—

(i)

yn ei brif swyddfa,

(ii)

ym mhrif swyddfa unrhyw ACLl yn ardal yr CBC, a

(iii)

mewn unrhyw fannau eraill o fewn ei ardal y mae’r CBC yn ystyried eu bod yn briodol;

(b)

cyhoeddi ar ei wefan—

(i)

y dogfennau cynigion cyn-adneuo,

(ii)

y datganiad o faterion cyn-adneuo, a

(iii)

datganiad bod y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu ac o’r mannau lle gellir eu harolygu ac o’r amserau y gellir eu harolygu;

(c)

anfon at y cyrff hynny y cyfeirir atynt yn rheoliad 16(1)(a)—

(i)

y dogfennau cynigion cyn-adneuo,

(ii)

y dogfennau ategol hynny sy’n berthnasol i’r corff y mae’r dogfennau yn cael eu hanfon ato,

(iii)

y datganiad o faterion cyn-adneuo, a

(iv)

y datganiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(iii).

Sylwadau ymgynghori â’r cyhoedd cyn adneuo19.

(1)

Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau i’r CBC ynghylch ei ddogfennau cynigion cyn-adneuo o fewn y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r CBC yn cydymffurfio â rheoliad 18(2).

(2)

Pan fo’r CBC yn cydymffurfio â’r gofynion yn rheoliad 18(2) ar ddiwrnodau gwahanol, cymerir bod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dechrau gyda’r diweddaraf o’r diwrnodau hynny.

(3)

Rhaid i unrhyw sylwadau—

(a)

cael eu gwneud yn ysgrifenedig, a

(b)

cael eu hanfon i’r cyfeiriad ac at y person (os o gwbl) a bennir yn unol â rheoliad 18(1)(c).

(4)

Rhaid i’r CBC ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwn cyn penderfynu ar gynnwys yr CDS sydd i’w adneuo o dan reoliad 21.

Pennod 5Adneuo CDS

Adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfennau cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo20.

Rhaid i’r CBC, cyn cymryd unrhyw gam arall y darperir ar ei gyfer yn y darpariaethau sy’n weddill o’r Rhan hon, lunio—

(a)

adroddiad o’r enw “adroddiad ymgynghori cychwynnol” sy’n nodi—

(i)

y personau neu’r cyrff y mae’r CBC wedi ymgysylltu neu ymgynghori â hwy yn unol â rheoliadau 16 a 18,

(ii)

crynodeb o’r prif faterion a godwyd, yr ymatebion a roddwyd a’r sylwadau a gyflwynwyd o ganlyniad i’r ymgysylltu neu’r ymgynghori hwnnw,

(iii)

eglurhad o sut yr ymdriniwyd â’r materion, yr ymatebion a’r sylwadau hynny yn yr CDS ac i ba raddau yr ymdriniwyd â hwy,

(iv)

cyfanswm y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â rheoliad 18,

(v)

disgrifiad o unrhyw wyro oddi wrth y cynllun cynnwys cymunedau,

(b)

dogfennau o’r enw “dogfennau cynigion yr CDS” sy’n cynnwys—

(i)

yr CDS,

(ii)

yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd,

(iii)

yr adroddiad ymgynghori cychwynnol,

(iv)

unrhyw adroddiad adolygu perthnasol,

(v)

unrhyw gofrestr y lleoliadau a’r safleoedd strategol ymgeisiol,

(vi)

unrhyw ddogfennau ategol y mae’r CBC yn ystyried eu bod yn berthnasol i’r gwaith o lunio’r CDS, ac

(c)

datganiad (“datganiad o faterion adneuo”) sy’n cynnwys—

(i)

teitl yr CDS,

(ii)

y cyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ynghylch yr CDS ynddo yn unol â rheoliad 22,

(iii)

y cyfeiriad y mae rhaid cyflwyno’r sylwadau hynny iddo a, phan fo’n briodol, y person y mae rhaid eu cyflwyno iddo o dan reoliad 22(3)(b), a

(iv)

datganiad y caniateir anfon, gydag unrhyw sylwadau o’r fath, gais bod y person sy’n cyflwyno’r sylwadau yn cael ei hysbysu mewn cyfeiriad penodedig os digwydd unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn—

(aa)

cyhoeddi argymhellion y person a benodwyd;

(bb)

mabwysiadu’r CDS o dan adran 67(3) o Ddeddf 2004;

(cc)

ei gymeradwyo o dan adran 65(9)(a) neu 71(4)(b) o’r Ddeddf honno.

Adneuo cynigion21.

Cyn cyflwyno’r CDS i Weinidogion Cymru ar gyfer archwiliad annibynnol o dan adran 64(1) o Ddeddf 2004, rhaid i’r CBC—

(a)

adneuo copïau o ddogfennau cynigion yr CDS a’r datganiad o faterion adneuo i’w harolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a);

(b)

cyhoeddi ar ei wefan—

(i)

dogfennau cynigion yr CDS,

(ii)

y datganiad o faterion adneuo, a

(iii)

datganiad bod dogfennau cynigion yr CDS a’r datganiad o faterion adneuo ar gael i’w harolygu ac o’r mannau lle gellir eu harolygu ac o’r amserau y gellir eu harolygu;

(c)

anfon copïau o’r canlynol at bob un o’r cyrff y cyfeirir atynt yn rheoliad 16(1)(a)—

(i)

yr CDS,

(ii)

yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd,

(iii)

yr adroddiad ymgynghori cychwynnol,

(iv)

rhestr o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r CBC yn ystyried eu bod yn berthnasol i’r gwaith o lunio’r CDS,

(v)

y datganiad o faterion adneuo, a

(vi)

y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (b)(iii).

Sylwadau ar gynigion adneuo22.

(1)

Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau ynghylch yr CDS o fewn y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r CBC yn cydymffurfio â rheoliad 21.

(2)

Pan fo’r CBC yn cydymffurfio â’r gofynion yn rheoliad 21 ar ddiwrnodau gwahanol, cymerir bod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dechrau gyda’r diweddaraf o’r diwrnodau hynny.

(3)

Rhaid i unrhyw sylwadau—

(a)

cael eu gwneud yn ysgrifenedig, a

(b)

cael eu hanfon i’r cyfeiriad ac at y person (os o gwbl) a bennir yn y datganiad o faterion adneuo.

(4)

Rhaid i’r CBC—

(a)

ystyried unrhyw sylwadau y mae’n eu cael yn unol â’r rheoliad hwn;

(b)

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(i)

rhoi copi o’r sylwadau ar gael yn y mannau lle rhoddwyd, ac yn ystod yr amseroedd pan roddwyd, y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a), a

(ii)

pan fo hynny’n ymarferol, cyhoeddi ar ei wefan fanylion y sylwadau ac ym mha fannau ac yn ystod pa amseroedd y gellir eu harolygu.

(5)

Nid oes angen i’r CBC gydymffurfio â pharagraff (4)(b) mewn perthynas ag unrhyw sylw sy’n dod i law ar ôl i’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ddod i ben.

Pennod 6Archwiliad annibynnol o’r CDS

Cyflwyno CDS i Weinidogion Cymru23.

(1)

Y dogfennau a ragnodir at ddibenion adran 64(3) o Ddeddf 2004 yw—

(a)

yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd,

(b)

y cynllun cynnwys cymunedau,

(c)

adroddiad ymgynghori sy’n nodi—

(i)

pa bersonau neu ba gyrff y mae’r CBC wedi ymgysylltu neu ymgynghori â hwy yn unol â rheoliadau 16, 18 ac 21,

(ii)

crynodeb o’r prif faterion a godwyd, yr ymatebion a roddwyd a’r sylwadau a gyflwynwyd o ganlyniad i’r ymgysylltu, yr ymgynghori neu’r hysbysu hwnnw,

(iii)

eglurhad o sut yr ymdriniwyd â’r prif faterion a godwyd, yr ymatebion a roddwyd a’r sylwadau a gyflwynwyd o ganlyniad i ymgysylltu neu ymgynghori o dan reoliad 16 neu 18 yn yr CDS, ac i ba raddau yr ymdriniwyd â hwy,

(iv)

argymhellion yr CBC ynghylch y modd y mae’n ystyried y dylid ymdrin, yn yr CDS, â’r prif faterion a godwyd yn y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â rheoliad 22,

(v)

cyfanswm y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â rheoliadau 19 a 22, a

(vi)

disgrifiad o unrhyw wyro oddi wrth y cynllun cynnwys cymunedau,

(d)

unrhyw adroddiad adolygu perthnasol,

(e)

unrhyw gofrestr y lleoliadau a’r safleoedd strategol ymgeisiol,

(f)

copi o’r sylwadau a ddaeth i law yn unol â rheoliad 22, ac

(g)

unrhyw ddogfennau ategol y mae’r CBC yn ystyried eu bod yn berthnasol i’r gwaith o lunio’r CDS.

(2)

Mae paragraff (3) yn gymwys at ddibenion paragraff (1)(a) i (c), (e) ac (g).

(3)

Pam fo’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)

rhaid anfon dau gopi o bob un o’r dogfennau o dan sylw at Weinidogion Cymru ar bapur, a

(b)

rhaid anfon un copi o bob un ohonynt at Weinidogion Cymru ar ffurf electronig ar yr amod, yn achos y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(g), ei bod yn ymarferol gwneud hynny.

(4)

At ddibenion paragraff (1)(f), rhaid anfon copi o bob sylw at Weinidogion Cymru ar bapur.

(5)

Rhaid i’r CBC—

(a)

cyhoeddi datganiad ar ei wefan ei fod wedi cyflwyno’r CDS i’w archwilio o dan adran 64(1) o Ddeddf 2004;

(b)

rhoi’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) ac (1)(g) ar gael i’w harolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a);

(c)

cyhoeddi ar ei wefan yr adroddiad ymgynghori ac, os yw’n rhesymol ymarferol, y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(g);

(d)

rhoi hysbysiad i unrhyw berson a ofynnodd am gael ei hysbysu pan fyddai’r CDS wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar gyfer archwiliad annibynnol, i’r perwyl ei fod wedi ei gyflwyno yn y modd hwnnw.

Archwiliad annibynnol24.

(1)

O leiaf chwe wythnos cyn dechrau cynnal y cyntaf o blith unrhyw wrandawiadau a gynhelir mewn perthynas â’r CDS o dan adran 64(6) o Ddeddf 2004, rhaid i’r CBC—

(a)

cyhoeddi’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ar ei wefan;

(b)

hysbysu unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylw (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl) yn unol â rheoliad 22 am y materion hynny.

(2)

Y materion y mae rhaid eu cyhoeddi yw—

(a)

yr amser a’r man y mae’r gwrandawiad i’w gynnal, a

(b)

enw’r person a benodwyd.

(3)

Rhaid i’r person a benodwyd ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn unol â rheoliad 22 cyn gwneud argymhellion yn unol ag adran 64(7) o Ddeddf 2004.

Cyhoeddi argymhellion y person a benodwyd25.

(1)

Rhaid i’r CBC gydymffurfio ag adran 64(8) o Ddeddf 2004—

(a)

pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) o Ddeddf 2004 ar ôl i’r person a benodwyd gydymffurfio ag adran 64(7) o’r Ddeddf honno, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y cyfarwyddyd;

(b)

fel arall, ar y diwrnod y mabwysiedir yr CDS o dan adran 67(3) o Ddeddf 2004 neu cyn hynny.

(2)

Wrth gyhoeddi argymhellion y person a benodwyd a’r rhesymau yn unol ag adran 64(8) o Ddeddf 2004, rhaid i’r CBC—

(a)

rhoi’r argymhellion a’r rhesymau dros yr argymhellion ar gael i’w harolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a),

(b)

cyhoeddi’r argymhellion a’r rhesymau ar ei wefan, ac

(c)

rhoi hysbysiad i unrhyw berson a ofynnodd am gael ei hysbysu pan fyddai argymhellion y person a benodwyd wedi eu cyhoeddi, i’r perwyl eu bod wedi eu cyhoeddi yn y modd hwnnw.

Pennod 7Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

Cyfarwyddyd sy’n atal mabwysiadu26.

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 67(4) o Ddeddf 2004 sy’n cyfarwyddo’r CBC i beidio â mabwysiadu’r CDS, rhaid i’r CBC—

(a)

rhoi’r cyfarwyddyd ar gael i’w arolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle mae rhaid rhoi’r dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a), a

(b)

cyhoeddi’r cyfarwyddyd ar ei wefan.

Cyfarwyddyd i addasu CDS27.

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1)(a) o Ddeddf 2004 sy’n cyfarwyddo’r CBC i addasu’r CDS, rhaid i’r CBC—

(a)

rhoi’r cyfarwyddyd ar gael i’w arolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle mae rhaid rhoi’r dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a), a

(b)

cyhoeddi’r cyfarwyddyd ar ei wefan.

Cyfarwyddydau adran 65(4) (galw i mewn): cymhwyso rheoliadau 29 i 3228.

Mae rheoliadau 29 i 32 yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(4) o Ddeddf 2004.

Cyfarwyddydau adran 65(4) (galw i mewn): cyfarwyddyd a roddir cyn i’r CBC gyflwyno ei CDS o dan adran 64(1) o Ddeddf 200429.

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(4) o Ddeddf 2004 sy’n cyfarwyddo bod yr CDS yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo ganddynt cyn i’r CBC gyflwyno’r CDS o dan adran 64(1) o Ddeddf 2004—

(a)

rhaid i’r CBC—

(i)

cydymffurfio ag adran 60M(7) o’r Ddeddf honno, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny;

(ii)

rhoi’r cyfarwyddyd ar gael i’w arolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle mae’n ofynnol rhoi’r dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a);

(iii)

cyhoeddi’r cyfarwyddyd ar ei wefan, a

(b)

mae rheoliadau 16 i 22 yn parhau i gael effaith fel pe na bai’r cyfarwyddyd wedi ei roi.

(2)

Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i’r CBC ailadrodd unrhyw gam a gymerwyd ganddo cyn iddo gael y cyfarwyddyd.

Cyhoeddi argymhellion y person a benodwyd (galw i mewn)30.

Rhaid i’r CBC, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gyhoeddi argymhellion a gyflwynwyd iddo yn unol ag adran 65(6) o Ddeddf 2004—

(a)

rhoi’r argymhellion a roddwyd gan y person a benodwyd, a’r rhesymau a roddwyd dros ei argymhellion, ar gael i’w harolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a), a

(b)

cyhoeddi’r argymhellion a’r rhesymau hynny ar ei wefan.

Gwyro oddi wrth argymhellion y person a benodwyd a sylwadau ynghylch hynny (galw i mewn)31.

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwyro oddi wrth unrhyw argymhelliad a roddwyd gan y person a benodwyd, rhaid iddynt gyhoeddi cynigion gwyro.

(2)

Rhaid i’r CBC, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gydymffurfio â pharagraff (1)—

(a)

rhoi copïau o’r cynigion gwyro a’r datganiad perthnasol ar gael i’w harolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a);

(b)

cyhoeddi ar ei wefan—

(i)

y cynigion gwyro,

(ii)

y datganiad perthnasol, a

(iii)

datganiad bod y cynigion gwyro ar gael i’w harolygu ac o’r mannau lle gellir eu harolygu ac o’r amserau y gellir eu harolygu;

(c)

anfon at y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)—

(i)

copïau o’r cynigion gwyro, a

(ii)

hysbysiad am y datganiad perthnasol.

(3)

Yn y rheoliad hwn—

(a)

ystyr “cynigion gwyro” yw dogfennau sy’n pennu—

(i)

ym mha fodd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwyro oddi wrth unrhyw argymhellion a roddwyd gan y person a benodwyd, a

(ii)

y rhesymau dros y cynigion hynny;

(b)

ystyr y “datganiad perthnasol” yw datganiad sy’n pennu—

(i)

y cyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ar y cynigion gwyro ynddo,

(ii)

cyfeiriad Gweinidogion Cymru y mae rhaid anfon sylwadau iddo, a phan fo’n briodol, y person y mae rhaid eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiad electronig neu fel arall), a

(iii)

y caniateir anfon, gydag unrhyw sylwadau a gyflwynir yn y modd hwnnw, gais bod y person sy’n cyflwyno’r sylwadau yn cael ei hysbysu mewn cyfeiriad penodedig am benderfyniad Gweinidogion Cymru o dan adran 65(9)(a) o Ddeddf 2004.

(4)

Y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i) yw—

(a)

pob un o’r cyrff ymgynghori penodol, i’r graddau y mae’r cynigion gwyro yn effeithio ar y cyrff hynny neu y gallent effeithio arnynt, a

(b)

y cyrff ymgynghori cyffredinol hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)

Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau ar y cynigion gwyro drwy eu hanfon i’r cyfeiriad ac at y person (os o gwbl) a bennir yn unol â pharagraff (3)(b)(ii) o fewn y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r cynigion gwyro.

(6)

Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau o’r fath cyn gwneud penderfyniad o dan adran 65(9)(a) o Ddeddf 2004.

Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar ôl cyfarwyddyd adran 65(4) (galw i mewn)32.

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod yr CDS, yn ei gymeradwyo neu’n ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i addasiadau o dan adran 65(9)(a) o Ddeddf 2004 (yn ôl y digwydd), rhaid i’r CBC, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)

rhoi’r canlynol ar gael i’w harolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a)—

(i)

yr CDS;

(ii)

y rhesymau a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 65(9)(b) o’r Ddeddf honno;

(iii)

y datganiad penderfynu;

(b)

cyhoeddi’r datganiad penderfynu ar ei wefan;

(c)

anfon y datganiad penderfynu at unrhyw berson a wnaeth gais am gael ei hysbysu am y penderfyniad o dan adran 65(9)(a) o Ddeddf 2004.

(2)

Yn y rheoliad hwn, ystyr “datganiad penderfynu” yw datganiad sy’n cynnwys—

(a)

penderfyniad Gweinidogion Cymru o dan adran 65(9)(a) o Ddeddf 2004, a

(b)

pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r CDS, neu’n ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i addasiadau, datganiad—

(i)

o’r dyddiad y cymeradwywyd yr CDS yn y modd hwnnw;

(ii)

y caiff person a dramgwyddir gan yr CDS a gymeradwywyd wneud cais i’r Uchel Lys o dan adran 113(3) o Ddeddf 2004;

(iii)

o’r seiliau y caniateir eu defnyddio i wneud y cais hwnnw, ac o fewn pa amser y caniateir iddo gael ei wneud.

Pennod 8Tynnu CDS yn ôl

Tynnu yn ôl33.

Pan dynnir CDS yn ôl o dan adran 66(1) neu 66A(2) o Ddeddf 200417 rhaid i’r CBC, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)

cyhoeddi datganiad o’r ffaith honno ar ei wefan;

(b)

hysbysu unrhyw gorff y gwnaeth ymgysylltu ag ef o dan reoliad 16(1)(a) am y ffaith honno;

(c)

symud ymaith unrhyw gopïau, dogfennau, materion a datganiadau a roddwyd ar gael i’w harolygu neu a gyhoeddwyd o dan reoliad 18(2)(a), 18(2)(b), 21(a), 21(b) neu 22(4)(b) o’r mannau lle roeddent ar gael i’w harolygu neu y’u cyhoeddwyd;

(d)

hysbysu unrhyw berson a gyflwynodd sylw (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl) yn unol â rheoliad 22(1), am y tynnu yn ôl.

Tynnu yn ôl pan na cheir cyfarwyddyd34.

(1)

Y camau sy’n ofynnol gan baragraff (1)(a), (b) ac (c) o reoliad 18 yw’r camau a bennir at ddibenion adran 66A(6)(b) o Ddeddf 2004.

(2)

Pan fo’r CBC yn rhoi hysbysiad o dan adran 66A(5)(a) o Ddeddf 2004, rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod o saith niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cymeradwyo, drwy benderfyniad, tynnu’r CDS yn ôl.

(3)

Rhaid i hysbysiad o’r fath gynnwys—

(a)

y rhesymau dros y tynnu yn ôl,

(b)

copi o’r adroddiad i’r CBC sy’n argymell y tynnu yn ôl arfaethedig, ac

(c)

copi o benderfyniad yr CBC i dynnu yn ôl.

(4)

Rhaid i’r CBC—

(a)

cyhoeddi’r hysbysiad ar ei wefan, a

(b)

rhoi copïau ar gael i’w harolygu yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a).

(5)

Pan fônt yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 66A(7) o Ddeddf 2004, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

pennu yn y cyfarwyddyd—

(i)

pa wybodaeth bellach sy’n ofynnol o dan adran 66A(7)(a) o’r Ddeddf honno (os o gwbl),

(ii)

yr estyniad i’r cyfnod hysbysu y cyfeirir ato yn adran 66A(5)(b) o’r Ddeddf honno (os o gwbl), a

(b)

cyhoeddi’r cyfarwyddyd ar eu gwefan a thrwy unrhyw ddulliau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)

At ddibenion adran 66A(9) o Ddeddf 2004, y cyfnod hysbysu yw chwe wythnos.

Pennod 9Mabwysiadu a chymeradwyo CDS

Mabwysiadu35.

(1)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 6 o Ddeddf 2004, rhaid i’r CBC gynnal pleidlais ar y penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 67(3) o’r Ddeddf honno o fewn y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae argymhellion y person a benodwyd a wnaed o dan adran 64(7)(a) o’r Ddeddf honno yn dod i law’r CBC.

(2)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r CBC fabwysiadu CDS, rhaid iddo—

(a)

rhoi’r canlynol ar gael i’w harolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a)—

(i)

yr CDS,

(ii)

datganiad mabwysiadu, a

(iii)

yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd,

(b)

cyhoeddi’r canlynol ar ei wefan—

(i)

yr CDS,

(ii)

y datganiad mabwysiadu, a

(iii)

yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd,

(c)

anfon y datganiad mabwysiadu at unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu ynghylch mabwysiadu’r CDS, a

(d)

anfon copi o’r CDS a’r datganiad mabwysiadu at Weinidogion Cymru.

(3)

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “datganiad mabwysiadu” yw datganiad sy’n cynnwys—

(a)

y dyddiad y mabwysiadwyd yr CDS;

(b)

y caiff person a dramgwyddir gan yr CDS wneud cais i’r Uchel Lys o dan adran 113(3) o Ddeddf 2004;

(c)

y seiliau y caniateir eu defnyddio i wneud y cais hwnnw, ac o fewn pa amser y caniateir iddo gael ei wneud.

Cymeradwyo36.

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r CDS o dan adran 65(9)(a) neu 71(4)(b) o Ddeddf 2004 rhaid i’r CBC, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)

rhoi’r canlynol ar gael i’w harolygu yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo a’r datganiad o faterion cyn-adneuo ar gael i’w harolygu o dan reoliad 18(2)(a)—

(i)

yr CDS,

(ii)

datganiad cymeradwyaeth, a

(iii)

yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;

(b)

cyhoeddi’r canlynol ar ei wefan—

(i)

yr CDS,

(ii)

y datganiad cymeradwyaeth, a

(iii)

yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;

(c)

anfon y datganiad cymeradwyaeth at unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu ynghylch cymeradwyo’r CDS.

(2)

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “datganiad cymeradwyaeth” yw datganiad sy’n cynnwys—

(a)

y dyddiad y cymeradwywyd yr CDS;

(b)

y caiff person a dramgwyddir gan yr CDS wneud cais i’r Uchel Lys o dan adran 113(3) o Ddeddf 2004;

(c)

y seiliau y caniateir eu defnyddio i wneud y cais hwnnw, ac o fewn pa amser y caniateir iddo gael ei wneud.

Effaith mabwysiadu a chymeradwyo37.

Pan fo CDS yn cael ei fabwysiadu gan yr CBC o dan adran 67(3) o Ddeddf 2004 neu’n cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 65(9)(a) neu 71(4)(b) o’r Ddeddf honno, mae unrhyw CDS presennol yn cael ei ddisodli ac yn peidio â chael effaith.

RHAN 3Dirymu CDS

Dirymu38.

Pan fo Gweinidogion Cymru yn dirymu CDS rhaid i’r CBC, o fewn y cyfnod o ddwy wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y’i dirymir—

(a)

cyhoeddi datganiad o’r ffaith honno ar ei wefan,

(b)

symud yr CDS ymaith o’r mannau lle—

(i)

y’i rhoddwyd ar gael i’w arolygu o dan reoliad 32(1)(a) neu 36(1)(a);

(ii)

y’i cyhoeddwyd o dan reoliad 35(2)(b) neu 36(1)(b), ac

(c)

cymryd unrhyw gamau eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn tynnu sylw personau sy’n byw neu’n gweithio yn ei ardal at y ffaith bod yr CDS wedi ei ddirymu.

RHAN 4Adolygu CDS

Adolygu39.

(1)

At ddibenion cynnal adolygiad o CDS yn unol ag adran 69(1)(b) o Ddeddf 200418, rhaid i’r CBC gychwyn adolygiad yn ddim hwyrach na’r cyfnod o bob chwe mlynedd sy’n dechrau â’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)

y dyddiad y mabwysiadwyd yr CDS gyntaf o dan adran 67(3) o Ddeddf 2004 neu y cymeradwywyd yr CDS gyntaf o dan adran 65(9)(a) neu 71(4)(b) o’r Ddeddf honno, neu

(b)

y dyddiad y mabwysiadwyd neu y cymeradwywyd CDS ddiwethaf o dan yr adrannau hynny (yn ôl y digwydd) yn dilyn adolygiad o dan adran 69(1) o Ddeddf 2004.

(2)

Rhaid i CBC—

(a)

cymeradwyo’r adroddiad adolygu drwy benderfyniad cyn ei gyflwyno i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 69(2) o Ddeddf 2004, a

(b)

cyflwyno’r adroddiad o fewn y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r CBC gychwyn ei adolygiad o’r CDS o dan baragraff (1).

(3)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i adroddiad adolygu gael ei gymeradwyo, rhaid i’r CBC—

(a)

cyhoeddi’r adroddiad ar ei wefan, a

(b)

rhoi copïau ar gael i’w harolygu yn ei brif swyddfa.

RHAN 5Adroddiad monitro blynyddol

Adroddiad monitro blynyddol40.

(1)

Rhaid i CBC gyhoeddi ei adroddiad monitro blynyddol ar ei wefan a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru—

(a)

ar 31 Hydref neu cyn hynny ym mhob blwyddyn, neu

(b)

pan fo cyfnod o lai na 12 mis wedi mynd heibio ers i’r CDS gael ei fabwysiadu gan yr CBC o dan adran 67(3) o Ddeddf 2004 neu ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 65(9)(a) neu 71(4)(b) o’r Ddeddf honno, ar 31 Hydref yn y flwyddyn ar ôl iddo gael ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo.

(2)

Pan na fo polisi a bennwyd mewn CDS yn cael ei weithredu, rhaid i’r adroddiad monitro blynyddol—

(a)

nodi’r polisi hwnnw;

(b)

cynnwys datganiad—

(i)

o’r rhesymau pam nad yw’r polisi yn cael ei weithredu,

(ii)

o’r camau y mae’r CBC yn bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff y polisi ei weithredu (os o gwbl), a

(iii)

ynghylch a yw’r CBC yn bwriadu llunio diwygiad o’r CDS at ddiben diwygio neu ddisodli’r polisi.

RHAN 6Gofynion o ran argaeledd dogfennau

Cyfnod para’r gofyniad i sicrhau bod dogfennau ar gael i’w harolygu41.

(1)

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i CDS a roddwyd ar gael i’w arolygu o dan reoliad 35(2)(a)(i) neu 36(1)(a).

(2)

Caniateir i gopïau, dogfennau, sylwadau, cyfarwyddydau, materion, hysbysiadau neu ddatganiadau gael eu symud ymaith o’r mannau lle y’u rhoddir ar gael i’w harolygu neu y’u cyhoeddir ar wefan yr CBC o ddiwedd y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r CDS gael ei fabwysiadu gan yr CBC o dan adran 67(3) o Ddeddf 2004 neu ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 65(9)(a) neu 71(4)(b) o’r Ddeddf honno.

Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 60M(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgor corfforedig, y mae Rhan 6 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, lunio cynllun datblygu strategol (“CDS”) ar gyfer ei ardal.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer llunio a diwygio CDS ac ar gyfer materion cysylltiedig.

Mae Rhan 1 yn ymdrin â materion cyffredinol, gan gynnwys cymhwyso’r Rheoliadau hyn, dehongli ymadroddion amrywiol a defnyddio cyfathrebiadau electronig.

Mae Rhan 2 yn ymdrin â llunio a diwygio CDS, ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â materion gan gynnwys—

  • darparu dogfennaeth a dynodi’r cyrff ymgynghori (Pennod 1),

  • y cytundeb cyflawni (Pennod 2),

  • ffurf a chynnwys CDS a materion cysylltiedig (Pennod 3),

  • y weithdrefn cyn adneuo, sy’n ymwneud â llunio cynigion mewn cysylltiad ag CDS ac ymgynghori ac ymgysylltu mewn cysylltiad â’r cynigion hynny (Pennod 4),

  • y weithdrefn adneuo, y mae rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig adneuo ei gynigion ar gyfer CDS yn unol â hi at ddiben ymgynghori pellach (Pennod 5),

  • yr archwiliad annibynnol o’r CDS gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru (Pennod 6),

  • pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd (Pennod 7),

  • tynnu CDS yn ôl (Pennod 8), a

  • mabwysiadu CDS gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru (Pennod 9).

Mae Rhan 3 yn ymdrin â’r camau y mae rhaid eu cymryd ar ôl i CDS gael ei ddirymu.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu CDS bob chwe mlynedd.

Mae Rhan 5 yn ymdrin â chynnwys adroddiad monitro blynyddol a’i gyhoeddi.

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer gofynion o ran argaeledd dogfennau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.