RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union ar ôl i Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddod i rym yn llawn(1).

(1)

Daeth paragraff 17(4) o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) i rym ar 21 Ionawr 2021. Daeth gweddill Atodlen 4 i Ddeddf 2021 i rym ar 1 Mai 2021 drwy orchymyn cychwyn a wnaed yn unol ag adran 175(7) o’r Ddeddf honno.