2021 Rhif 356 (Cy. 107)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 50 a 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211 ac adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12)2 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20003.
Yn unol ag adran 174(4) a (5)(f) a (t) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.