- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
18 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2021” yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Mai 2021 i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym—
(a)adran 47;
(b)adran 49;
(c)Atodlen 4.
3.—(1) Yn yr erthygl hon, ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2).
(2) Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a gyhoeddir neu a anfonir cyn 1 Mai 2021 yn unol â’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) fel y’u haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020(3) mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir ar 1 Mai 2021 neu ar ôl hynny, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai wedi ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi neu ei anfon neu ei hanfon yn unol â’r darpariaethau hynny fel y’u diwygiwyd gan Atodlen 4 i Ddeddf 2021.
(3) Y darpariaethau yw—
(a)adran 1 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad at Gyfarfodydd) 1960(4);
(b)Rhan 5A o Ddeddf 1972;
(c)Atodlen 12 i Ddeddf 1972.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Mai 2021, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym—
(a)adran 47 (trefniadau ac amodau i bersonau nad ydynt yn yr un lle fynychu cyfarfodydd awdurdod lleol);
(b)adran 49 (hysbysiadau etc. ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleol);
(c)Atodlen 4 (hysbysiad am gyfarfodydd awdurdodau lleol, mynediad at ddogfennau a diwygiadau canlyniadol yn ymwneud â mynychu’r cyfarfodydd hynny).
Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a gyhoeddir neu a anfonir cyn 1 Mai 2021 sy’n ymwneud â chyfarfod a gynhelir ar 1 Mai 2021 neu ar ôl hynny.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Gweler adran 175(1) o Ddeddf 2021 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol. Gweler adran 175(3) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2021 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021. Gweler hefyd adran 175(4) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: