2021 Rhif 353 (Cy. 105)
Tai, Cymru

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 160A(3)1 o Ddeddf Tai 19962 a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 20143.
Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad4.

Enwi a chychwyn1.

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2021.

Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 20142.

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 20145 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 33.

Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—

(a)

hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (f);

(b)

hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (g);

(c)

ar ddiwedd is-baragraff (h), yn lle “.” rhodder “; ac”;

(d)

ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—

“(i)

Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo6.”.

Diwygio rheoliad 54.

Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

(a)

hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (g);

(b)

hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (h);

(c)

ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.” rhodder “; ac”;

(d)

ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

“(j)

“Dosbarth J – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo.”.

Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai gan awdurdod lleol oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

O dan baragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (2014 dccc 7) (“Deddf 2014”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael cymorth tai o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth tai.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.

Mae Dosbarth I yn gymwys i bersonau sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddynt i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo ar y sail eu bod yn berson diwladwriaeth.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan Ddeddf 2014. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath: Dosbarth J – personau diwladwriaeth (sy’n cyfateb i Ddosbarth I a fewnosodir gan reoliad 3).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir gael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.