YR ATODLENCyfansoddiad

RHAN 3Is-bwyllgorau

Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

16.

(1)

Rhaid i CBC y De-orllewin sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—

(a)

adolygu materion ariannol CBC y De-orllewin a chraffu arnynt;

(b)

llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y De-orllewin;

(c)

adolygu ac asesu trefniadau CBC y De- orllewin ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol F1, rheoli perfformiad a llywodraethu corfforaethol;

(d)

llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y De- orllewin ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;

F2(da)

adolygu ac asesu gallu CBC y De-orllewin i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(db)

gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y De-orllewin i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(e)

goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y De-orllewin;

(f)

adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y De-orllewin;

(g)

arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y De-orllewin.

F3(1A)

Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(2)

Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y De-orllewin sicrhau—

(a)

F4nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,

(b)

F5bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac

F6(c)

nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)

yn aelod cyngor,

(ii)

yn aelod cyfetholedig,

(iii)

yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y De-orllewin, F7...

F7(iv)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F8(2A)

Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

F9(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)

Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).

(5)

Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.