YR ATODLENCyfansoddiad

Rheoliad 5

RHAN 1Gweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio

Cadeirio cyfarfodydd

1.

Rhaid i gyfarfodydd CBC y De-orllewin gael eu cadeirio gan—

(a)

y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu

(b)

os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.

Penodi cadeirydd ac is-gadeirydd

2.

(1)

Yng nghyfarfod cyntaf CBC y De-orllewin—

(a)

penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a

(b)

rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor sir Gaerfyrddin gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).

(2)

Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y De-orllewin—

(a)

rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu

(b)

rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.

(3)

Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.

(4)

Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—

(a)

yr aelodau cyngor, a

(b)

unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.

(5)

Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.

(6)

Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y De-orllewin a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.

(7)

Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.

(8)

Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor sir Gaerfyrddin.

Cyfarfodydd cyffredinol blynyddol

3.

Rhaid i CBC y De-orllewin gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.

Cyfarfodydd eraill

4.

(1)

Caiff CBC y De-orllewin gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.

(2)

Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y De-orllewin gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

Cworwm

5.

Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin onid yw—

(a)

yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(i)

rheoliad 17, neu

(ii)

paragraff 7 o’r Atodlen hon,

yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a

(b)

mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.

Y weithdrefn bleidleisio

6.

(1)

Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin—

(a)

ni chaiff nifer y cyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio,

(b)

un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,

(c)

mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a

(d)

os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.

(2)

Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)

rheoliad 17, neu

(b)

paragraff 7 o’r Atodlen hon,

nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.

(3)

Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.

Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol

7.

(1)

Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y De-orllewin fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.

(2)

Ond ni chaiff CBC y De-orllewin fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)

rheoliad 17, neu

(b)

y paragraff hwn.

(3)

Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—

(a)

rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y De-orllewin y mae’n gymwys iddynt;

(b)

ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).

(4)

Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol—

(a)

aelodau CBC y De-orllewin, a

(b)

unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.

(5)

Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.

Rheolau sefydlog

8.

(1)

Rhaid i CBC y De-orllewin wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.

(2)

Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.

RHAN 2Staff

Cyffredinol

9.

Caiff CBC y De-orllewin wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—

(a)

darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a

(b)

paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 20216.

Telerau ac amodau

10.

(1)

Pan fo CBC y De-orllewin yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y De-orllewin.

(2)

Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal CBC y De-orllein rhag addasu unrhyw delerau ac amodau os yw hynny’n angenrheidiol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

Staff o awdurdodau eraill

11.

(1)

Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 20067) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y De-orllewin ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y De-orllewin at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2)

Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y De-orllewin yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y De-orllewin at ddibenion—

(a)

y Rheoliadau hyn;

(b)

paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;

(c)

unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y De-orllewin neu ag arfer ei swyddogaethau.

Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraill

12.

(1)

Caiff CBC y De-orllewin ymrwymo i gytundeb gydag—

(a)

cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);

(b)

awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),

ar gyfer rhoi staff CBC y De-orllewin at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2)

Pan fo aelod o staff CBC y De-orllewin yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—

(a)

at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y De-orllewin, a

(b)

at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.

Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12

13.

Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.

Trosglwyddo staff

14.

Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y De-orllewin wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 20068 ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.

RHAN 3Is-bwyllgorau

Is-bwyllgorau

15.

(1)

Caiff CBC y De-orllewin—

(a)

sefydlu is-bwyllgorau;

(b)

penodi’r canlynol yn aelodau o is-bwyllgor—

(i)

aelodau o CBC y De-orllewin;

(ii)

cyfranogwyr cyfetholedig (gweler rheoliad 9).

(2)

Ni chaiff is-bwyllgor ond arfer y swyddogaethau hynny a ddirprwyir iddo gan CBC y De-orllewin (ond gweler rheoliad 15 a pharagraff 16).

(3)

Rhaid nodi gweithdrefnau is-bwyllgor, gan gynnwys unrhyw weithdrefnau pleidleisio pan fo hynny’n briodol, yn y rheolau sefydlog.

Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

16.

(1)

Rhaid i CBC y De-orllewin sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—

(a)

adolygu materion ariannol CBC y De-orllewin a chraffu arnynt;

(b)

llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y De-orllewin;

(c)

adolygu ac asesu trefniadau CBC y De- orllewin ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol;

(d)

llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y De- orllewin ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;

(e)

goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y De-orllewin;

(f)

adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y De-orllewin;

(g)

arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y De-orllewin.

(2)

Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y De-orllewin sicrhau—

(a)

bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,

(b)

y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac

(c)

nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)

yn aelod cyngor,

(ii)

yn gyfranogwr cyfetholedig, nac

(iii)

yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.

(3)

Yn is-baragraff (2), ystyr “cyfranogwr cyfetholedig” yw person a gyfetholir—

(a)

yn aelod o is-bwyllgor ac eithrio’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, neu

(b)

i gyfranogi yng ngweithgareddau CBC y De- orllewin ac eithrio gweithgareddau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(4)

Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).

(5)

Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.