RHAN 3Aelodaeth

Aelodaeth6.

(1)

Aelodau CBC y De-orllewin yw—

(a)

y 4 aelod cyngor,

(b)

aelod Bannau Brycheiniog, F1...

(c)

aelod Arfordir Penfro F2, a

F3(d)

unrhyw aelod cyfetholedig.

(2)

Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y De-orllewin F4, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(3A) a 9(2) .

F5(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y De-orllewin (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog F6, aelod Arfordir Penfro F7ac unrhyw aelod cyfetholedig, oni bai bod—

(a)

darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)

y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngor7.

(1)

Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

(a)

yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

(b)

y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

F8(2)

Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y De-orllewin am y cyfnod hwnnw.

(2A)

At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

(2B)

Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

(2C)

Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—

(a)

wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y De-orllewin, neu

(b)

wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.

(3)

Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y De-orllewin hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Aelod Bannau Brycheiniog ac Aelod Arfordir Penfro8.

(1)

Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Bannau Brycheiniog”).

(2)

Rhaid i Awdurdod Parc Arfordir Penfro benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Arfordir Penfro”).

(3)

Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro yw—

(a)

cadeirydd yr Awdurdod,

(b)

dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

(c)

cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

F9(3A)

Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)

y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13;

(b)

unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(3B)

Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y De-orllewin—

(a)

os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) yn cytuno F10yn unfrydol, neu

(b)

os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(3C)

Rhaid i gytundeb o dan baragraff (3B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro i weithredu.

F11(4)

Pan fo person sy’n aelod Bannau Brycheiniog neu’n aelod Arfordir Penfro o dan baragraff (1) neu (2) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (3) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y De-orllewin am y cyfnod hwnnw.

(5)

At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (4) i’w drin fel pe bai’n aelod Bannau Brycheiniog neu’n aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) o CBC y De-orllewin.

(6)

Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

(7)

Yn y rheoliad hwn—

ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd;

ystyr “wedi ei atal dros dro” (“suspended”) yw—

  1. (i)

    wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y De-orllewin, neu

  2. (ii)

    wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol y mae P hefyd yn aelod ohono.

(5)

Yn is-baragraffau (3) a (4) ystyr yr “Awdurdod” yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd.

F12Aelodau cyfetholedig9.

(1)

Caiff CBC y De-orllewin gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y De-orllewin (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

(2)

Rhaid i’r telerau hynny—

(a)

pennu—

(i)

swyddogaethau CBC y De-orllewin y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

(ii)

unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;

(b)

cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill F13sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad, ac

(c)

cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

(3)

Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

(a)

y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13, a

(b)

unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

(4)

Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

(a)

am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

(b)

hyd nes—

(i)

y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y De-orllewin, neu

(ii)

y bydd CBC y De-orllewin yn terfynu’r cyfetholiad.

(5)

Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

(a)

caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

(b)

rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y De-orllewin.

F14Anghymhwysiad rhag bod yn aelod cyfetholedig9A.

(1)

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y De-orllewin os yw’r person—

(a)

yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—

(i)

CBC y De-orllewin;

(ii)

is-bwyllgor i CBC y De-orllewin;

(iii)

deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu

(b)

wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—

(i)

cyngor cyfansoddol;

(ii)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

(iii)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

(2)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).

Rhannu swydd10.

Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

(a)

rheoliad 7(1), neu

(b)

rheoliad 8(3),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.