NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1710) (Cy. 172) (“Gorchymyn 2006”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer rheoli plâu a chlefydau sy’n effeithio ar wenyn.

Mae erthygl 2 yn mewnosod erthygl 2A yng Ngorchymyn 2006 sy’n ymwneud ag adrodd am bresenoldeb gwiddon Varroa. Mae erthygl 2A yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n berchen ar gwch neu sy’n gyfrifol am gwch adrodd am bresenoldeb unrhyw rywogaeth o’r gwiddonyn Varroa yn y cwch hwnnw i Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.