Offerynnau Statudol Cymru
Clefydau Gwenyn, Cymru
Gwnaed
17 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
19 Mawrth 2021
Yn dod i rym
21 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1 o Ddeddf Gwenyn 1980(1).
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2021 a daw i rym ar 21 Ebrill 2021.
2. Ar ôl erthygl 2 o Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006(2) mewnosoder—
2A. Rhaid i unrhyw berchennog neu’r person sy’n gyfrifol am gwch sy’n gwybod neu sy’n amau bod unrhyw rywogaeth o’r gwiddonyn Varroa yn bresennol yn y cwch adrodd am y ffaith honno i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1710) (Cy. 172) (“Gorchymyn 2006”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer rheoli plâu a chlefydau sy’n effeithio ar wenyn.
Mae erthygl 2 yn mewnosod erthygl 2A yng Ngorchymyn 2006 sy’n ymwneud ag adrodd am bresenoldeb gwiddon Varroa. Mae erthygl 2A yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n berchen ar gwch neu sy’n gyfrifol am gwch adrodd am bresenoldeb unrhyw rywogaeth o’r gwiddonyn Varroa yn y cwch hwnnw i Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1980 p. 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 1, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mae’r cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O.S. 2006/1710 (Cy. 172), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/226 (Cy. 44).