Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006

2.  Ar ôl erthygl 2 o Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006(1) mewnosoder—

Adrodd am widdon Varroa (Varroosis)

2A.  Rhaid i unrhyw berchennog neu’r person sy’n gyfrifol am gwch sy’n gwybod neu sy’n amau bod unrhyw rywogaeth o’r gwiddonyn Varroa yn bresennol yn y cwch adrodd am y ffaith honno i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.