Parhawyd â bodolaeth Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau’r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn sy’n rhoi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor neu’n gosod swyddogaethau ychwanegol arno.
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor sy’n ymwneud â gosod, adolygu, estyn a dirymu gorchmynion atal dros dro interim.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gwneud gorchymyn atal dros dro interim. Mae erthygl 3(1) yn rhoi i’r Cyngor y swyddogaeth o wneud gorchymyn atal dros dro interim mewn cysylltiad â pherson cofrestredig. Mae erthygl 3(2) yn darparu bod rhaid i’r Cyngor gynnull gwrandawiad i ystyried a yw’r gofynion ar gyfer gwneud gorchymyn atal dros dro interim wedi eu bodloni. Mae erthygl 3(3) yn darparu bod y Cyngor yn penodi personau i banel annibynnol er mwyn penderfynu unrhyw wrandawiad y mae’n ei gynnull o dan baragraff (2). Mae erthygl 3(4) yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau y mae gorchymyn atal dros dro interim i’w wneud odanynt. Mae erthygl 3(5) yn darparu, pan fo gorchymyn atal dros dro interim wedi ei wneud, fod rhaid dileu enw’r person cofrestredig y mae’n ymwneud ag ef o’r gofrestr y mae’r Cyngor yn ei chynnal. Mae erthygl 3(6) yn darparu na chaniateir i orchymyn atal dros dro interim gael effaith am gyfnod o fwy na 18 mis (oni chaiff ei estyn yn rhinwedd cais i’r Uchel Lys yn unol ag erthygl 17).
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r isafswm cyfnod rhybudd y mae rhaid i’r Cyngor ei roi i’r person cofrestredig o’i fwriad i wneud gorchymyn atal dros dro interim.
Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn rhoi hawl i’r person cofrestredig i ymddangos, i gael ei hebrwng, i gael ei gynrychioli ac i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig a llafar mewn gwrandawiad a gynullir i ystyried gwneud gorchymyn atal dros dro interim.
Mae erthygl 6 o’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cynnwys gorchymyn atal dros dro interim.
Mae erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer dyddiad effeithiol gorchymyn atal dros dro interim.
Mae erthygl 8 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnwys yr hysbysiad bod gorchymyn atal dros dro interim wedi ei wneud ac i bwy y dylid cyflwyno’r hysbysiad. Mae erthygl 20 yn gwneud darpariaeth o ran pa bryd y bernir bod hysbysiad wedi ei gyflwyno i’r person cofrestredig.
Mae erthygl 9 o’r Gorchymyn hwn yn rhoi’r hawl i’r person cofrestredig i gael gwrandawiad cyhoeddus mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn atal dros dro interim ac mewn cysylltiad â’r adolygiad o’r gorchymyn hwnnw yn unol ag erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn. Oni bai bod person cofrestredig neu gyn-berson cofrestredig yn arfer ei hawl i gael gwrandawiad cyhoeddus, cynhelir gwrandawiadau o’r fath yn breifat.
Mae erthygl 10 o’r Gorchymyn hwn yn rhoi i’r cyn-berson cofrestredig hawl i apelio i’r Uchel Lys yn erbyn gwneud gorchymyn atal dros dro interim o fewn 28 o ddiwrnodau i gyflwyno’r hysbysiad o’r gorchymyn.
Mae erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer dirymu gorchymyn atal dros dro interim.
Mae erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chais am adolygiad o orchymyn atal dros dro interim gan y person y mae’n ymwneud ag ef. Rhaid i gais gynnwys yr wybodaeth a nodir yn erthygl 13 o’r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 14 o’r Gorchymyn hwn yn rhoi hawl i gyn-berson cofrestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef i ymddangos, i gael ei hebrwng, i gael ei gynrychioli, ac i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig a llafar mewn gwrandawiad a gynullir i adolygu’r gorchymyn atal dros dro interim.
Mae erthygl 15 o’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gyflwyno hysbysiad i’r cyn-berson cofrestredig o’i benderfyniad mewn cysylltiad â’i gais am adolygiad o’r gorchymyn atal dros dro interim.
Mae erthygl 16 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod rhaid i’r Cyngor gadw’r gorchymyn atal dros dro interim o dan adolygiad fesul pa ysbeidiau bynnag y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
Mae erthygl 17 o’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer estyn gorchymyn atal dros dro interim neu ei estyn ymhellach y tu hwnt i 18 mis gan yr Uchel Lys.
Mae erthygl 18 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth i reolau gweithredu gael eu gwneud gan y Cyngor mewn cysylltiad â’i benderfyniadau i osod, adolygu, estyn neu ddirymu gorchymyn atal dros dro interim.
Mae erthygl 19 o’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cyhoeddi dogfennau a darparu copïau ohonynt i bersonau cofrestredig a chyn-bersonau cofrestredig.
Mae erthygl 20 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad i berson o dan y Gorchymyn hwn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.