Hawl i ofyn am wrandawiad cyhoeddus9.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y panel drafod yn breifat ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben yn ystod neu ar ôl gwrandawiad.
(2)
Caiff person cofrestredig neu gyn-berson cofrestredig y mae’r gorchymyn atal dros dro interim arfaethedig yn ymwneud ag ef ofyn bod unrhyw wrandawiad yn unol ag erthygl 3 neu 12 yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.
(3)
Pan fo person cofrestredig neu gyn-berson cofrestredig yn gofyn bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, caiff y panel eithrio’r cyhoedd o wrandawiad neu unrhyw ran o wrandawiad—
(a)
pan fo’n ymddangos i’r panel ei bod yn angenrheidiol eithrio’r cyhoedd er budd cyfiawnder, neu
(b)
pan fo’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn buddiannau plant.