Gorchmynion atal dros dro interim3.
(1)
Caiff y Cyngor wneud gorchymyn atal dros dro interim mewn cysylltiad â pherson cofrestredig.
(2)
Ni chaiff y Cyngor wneud gorchymyn atal dros dro interim o dan baragraff (1) oni bai ei fod wedi cynnull gwrandawiad i ystyried a yw’r gofynion ar gyfer gwneud gorchymyn atal dros dro interim wedi eu bodloni.
(3)
Rhaid i’r Cyngor benodi unrhyw bersonau y mae’n ystyried eu bod yn briodol i banel er mwyn penderfynu gwrandawiad y mae’n ei gynnull o dan baragraff (2).
(4)
Ni chaniateir gwneud gorchymyn atal dros dro interim o dan baragraff (1) ond—
(a)
cyn i benderfyniad o ran pa un ai i wneud gorchymyn disgyblu ai peidio gael ei wneud, a
(b)
os yw’r Cyngor yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud gorchymyn atal dros dro interim er budd y cyhoedd.
(5)
Pan fo’r Cyngor yn gwneud gorchymyn atal dros dro interim o dan baragraff (1), rhaid iddo ddileu enw’r person cofrestredig o’r gofrestr y mae’n ei chynnal.
(6)
Ni chaniateir i orchymyn atal dros dro interim gael effaith am gyfnod sy’n hwy na 18 mis (oni chaiff ei estyn gan yr Uchel Lys; gweler erthygl 17 (estyn gorchmynion atal dros dro interim gan yr Uchel Lys)).
(7)
Ni chaniateir gwneud gorchymyn atal dros dro interim o dan baragraff (1) ond os yw yn unol—
(a)
â’r Gorchymyn hwn, a
(b)
â’r rheolau gweithredu a wneir gan y Cyngor o dan erthygl 18.