12.—(1) Caiff cyn-berson cofrestredig ofyn i’r Cyngor adolygu gorchymyn atal dros dro interim sy’n ymwneud â’r person hwnnw—
(a)cyn i 6 mis ddod i ben o’r dyddiad—
(i)y gwnaed y gorchymyn atal dros dro interim, neu
(ii)yr estynnodd yr Uchel Lys, neu yr estynnodd yr Uchel Lys ymhellach, y gorchymyn atal dros dro interim o dan erthygl 17(2)(b);
(b)wedi hynny cyn i gyfnod dilynol o 6 mis ddod i ben;
(c)ar unrhyw adeg os daw tystiolaeth newydd ar gael sy’n berthnasol i’r achos neu os oes newid sylweddol mewn amgylchiadau ers i’r gorchymyn atal dros dro interim gael ei wneud.
(2) Pan fo cyn-berson cofrestredig yn gofyn o dan baragraff (1) i’r Cyngor adolygu’r gorchymyn atal dros dro interim, rhaid i’r Cyngor gynnull gwrandawiad i ystyried yr achos—
(a)cyn i’r cyfnod o 6 mis ddod i ben o’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn, pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys,
(b)cyn i’r cyfnod o 6 mis ddod i ben o ddyddiad yr adolygiad diwethaf, pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, ac
(c)o fewn 10 niwrnod gwaith i gael y cais, pan fo paragraff (1)(c) yn gymwys.
(3) Pan fo gorchymyn atal dros dro interim a wnaed o dan erthygl 3 wedi bod yn destun apêl o dan erthygl 10, mae unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (1) neu (2) at y dyddiad y gwnaed y gorchymyn i’w ddarllen fel cyfeiriad at ddyddiad penderfyniad yr Uchel Lys o dan erthygl 10.
(4) Ni chaiff y Cyngor adolygu gorchymyn atal dros dro interim ond yn unol—
(a)â’r Gorchymyn hwn, a
(b)â’r rheolau gweithredu a wneir gan y Cyngor o dan erthygl 18.