xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 349 (Cy. 101)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021

Gwnaed

17 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru(1) gan adran 12(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(2), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, a’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 58 o’r Ddeddf honno(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol â pharagraff 35(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

2.—(1Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 12(1) (cyrff llywodraeth leol yng Nghymru), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)a corporate joint committee;.

(3Yn adran 25 (y weithdrefn ar gyfer ystyried adroddiadau ac argymhellion), ar ôl is-adran (8) mewnosoder—

(8A) Where a duty imposed on a body by this section is imposed on a corporate joint committee, the duty may not be discharged on behalf of the corporate joint committee by—

(a)a sub-committee of the corporate joint committee, or

(b)any other person.

(4Yn adran 59 (dehongli Rhan 2), ar ôl is-adran (8) mewnosoder—

(9) “Corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Archwilydd Cyffredinol Cymru, (sefydlwyd swyddfa’r Archwilydd gan adran 90 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) – sydd erbyn hyn wedi ei ddisodli gan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), gan gynnwys gwneud darpariaeth ynghylch archwilio cyfrifon cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae adran 12(1) o Ddeddf 2004 yn rhestru’r cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae Rhan 2 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddynt. Mae adran 12(2) o’r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, i ddiwygio’r rhestr honno.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy Reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y rhestr yn adran 12(1) o Ddeddf 2004. Mae’r Gorchymyn hefyd yn gwneud mân ddarpariaeth ganlyniadol ac atodol.

Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig sy’n cynnwys yr awdurdodau lleol hynny yng Nghymru a bennir mewn Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig ac, o dan rai amgylchiadau, awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Nghymru os yw’r Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 38. Rhoddwyd y pŵer o dan sylw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (p. 38), ac fe’i disodlwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) ac a ailenwyd bellach yn Senedd Cymru neu the Welsh Parliament yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1).

(2)

2004 p. 23. Mae’r pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 12(2) wedi ei freinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Diwygiwyd adran 58 gan baragraffau 20 a 58 o Atodlen 4 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3).