2021 Rhif 349 (Cy. 101)
Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru1 gan adran 12(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 20042, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, a’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 58 o’r Ddeddf honno3, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol â pharagraff 35(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.