2021 Rhif 347 (Cy. 100)
Cydraddoldeb, Cymru

Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 151(2) a 207(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 20101.

Yn unol ag adran 209(2) a (3)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i gymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Cyn gwneud y Gorchymyn hwn, yn unol ag adran 152(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Enwi a dod i rym1.

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 1 Ebrill 2021.

Diwygio Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 20102.

Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan y pennawd “Local government”, yn y lle priodol mewnosoder—

“A corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”

Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“y Ddeddf”) drwy ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)> at y rhestr o awdurdodau Cymreig perthnasol sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan adran 149(1) o’r Ddeddf.

Mae’r awdurdodau Cymreig perthnasol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 19 i’r Ddeddf yn awdurdodau sy’n bodloni’r prawf yn adran 157(2) o’r Ddeddf; hynny yw, maent yn awdurdodau Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau a gorchmynion cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.