NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3). Mae Atodlen 3 yn nodi’r cyrff a’r personau eraill sy’n awdurdodau rhestredig at ddibenion y Ddeddf honno ac sydd felly o fewn cylch gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at Atodlen 3 gyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy Reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).

Mae adran 33 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i Reoliadau o dan adran 31(2) sy’n ychwanegu person at Atodlen 3 bennu pa un a yw holl swyddogaethau’r person, ynteu dim ond rhai ohonynt, i ddod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno (ymchwiliadau). Mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn pennu bod holl swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig i ddod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.