2021 Rhif 344 (Cy. 98)
Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 20041, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 39(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol yng Nghymru y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a’r cyrff o gyfrifwyr hynny y mae’n ymddangos iddynt ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2021.

Diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 20142.

(1)

Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 20142 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 1(3)(e) (cymhwyso), yn lle “ac 20” rhodder “, 20 ac 20A”.

(3)

Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)

ar ôl y diffiniad o “Deddf 2004” mewnosoder—
“ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20213;”

(b)

ar ôl y diffiniad o “cyd-bwyllgor” mewnosoder—

“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;”

(c)

yn y diffiniad o “cyd-bwyllgor”, ar ôl “lleol” mewnosoder “ond nid yw’n cynnwys cyd-bwyllgor corfforedig”;

(d)

yn y diffiniad o “corff perthnasol llai”, o flaen paragraff (i) mewnosoder—

“(zi)

cyd-bwyllgor corfforedig;”.

(4)

Yn rheoliad 10 (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi cyfrifon cyrff mwy), ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

“(9)

Wrth ei gymhwyso i gyd-bwyllgor corfforedig, mae paragraff (2) i’w ddarllen fel pe bai’r cyfeiriadau at “pwyllgor” yn gyfeiriadau at “is-bwyllgor”.”

(5)

Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder—

“Cyd-bwyllgorau corfforedig20A.

(1)

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adneuo gyda phob awdurdod cyfansoddol—

(a)

pan fo’n gorff perthnasol llai, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod a bennir gan reoliad 18, gopi o adroddiad yr archwilydd a’r datganiadau cyfrifyddu; a

(b)

fel arall, wrth roi hysbysiad o dan reoliad 13, gopi o adroddiad yr archwilydd a’r datganiad o gyfrifon.

(2)

Yn y rheoliad hwn—

(a)

ystyr “awdurdod cyfansoddol”, mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw—

(i)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, y mae ei brif aelod gweithrediaeth yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)

Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)

mae i “prif aelod gweithrediaeth” yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021.”

Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Archwilydd Cyffredinol Cymru, (sefydlwyd swyddfa’r Archwilydd gan adran 90 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) – sydd erbyn hyn wedi ei ddisodli gan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), gan gynnwys gwneud darpariaeth ynghylch archwilio cyfrifon cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae adran 39 o Ddeddf 2004 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru y mae Rhan 2 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo. Mae adran 12(1) o’r Ddeddf honno yn rhestru’r cyrff y mae Rhan 2 yn gymwys iddynt.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (a wnaed o dan adran 39) i ddarparu bod cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy Reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliadau 2014 pan fo’n berthnasol.

Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig sy’n cynnwys yr awdurdodau lleol hynny yng Nghymru a bennir mewn Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig ac, o dan rai amgylchiadau, awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Nghymru os yw’r Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw. Fe’u hychwanegwyd at y rhestr o gyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn adran 12(1) o Ddeddf 2004 gan Orchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.