Search Legislation

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 344 (Cy. 98)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

17 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

18 Mawrth 2021

Yn dod i rym

8 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 39(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol yng Nghymru y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a’r cyrff o gyfrifwyr hynny y mae’n ymddangos iddynt ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2021.

Diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014

2.—(1Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3)(e) (cymhwyso), yn lle “ac 20” rhodder “, 20 ac 20A”.

(3Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)ar ôl y diffiniad o “Deddf 2004” mewnosoder—

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(3);

(b)ar ôl y diffiniad o “cyd-bwyllgor” mewnosoder—

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

(c)yn y diffiniad o “cyd-bwyllgor”, ar ôl “lleol” mewnosoder “ond nid yw’n cynnwys cyd-bwyllgor corfforedig”;

(d)yn y diffiniad o “corff perthnasol llai”, o flaen paragraff (i) mewnosoder—

(zi)cyd-bwyllgor corfforedig;.

(4Yn rheoliad 10 (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi cyfrifon cyrff mwy), ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(9) Wrth ei gymhwyso i gyd-bwyllgor corfforedig, mae paragraff (2) i’w ddarllen fel pe bai’r cyfeiriadau at “pwyllgor” yn gyfeiriadau at “is-bwyllgor”.

(5Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder—

Cyd-bwyllgorau corfforedig

20A.(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adneuo gyda phob awdurdod cyfansoddol—

(a)pan fo’n gorff perthnasol llai, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod a bennir gan reoliad 18, gopi o adroddiad yr archwilydd a’r datganiadau cyfrifyddu; a

(b)fel arall, wrth roi hysbysiad o dan reoliad 13, gopi o adroddiad yr archwilydd a’r datganiad o gyfrifon.

(2) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “awdurdod cyfansoddol”, mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw—

(i)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, y mae ei brif aelod gweithrediaeth yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)mae i “prif aelod gweithrediaeth” yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Archwilydd Cyffredinol Cymru, (sefydlwyd swyddfa’r Archwilydd gan adran 90 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) – sydd erbyn hyn wedi ei ddisodli gan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), gan gynnwys gwneud darpariaeth ynghylch archwilio cyfrifon cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae adran 39 o Ddeddf 2004 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru y mae Rhan 2 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo. Mae adran 12(1) o’r Ddeddf honno yn rhestru’r cyrff y mae Rhan 2 yn gymwys iddynt.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (a wnaed o dan adran 39) i ddarparu bod cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy Reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliadau 2014 pan fo’n berthnasol.

Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig sy’n cynnwys yr awdurdodau lleol hynny yng Nghymru a bennir mewn Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig ac, o dan rai amgylchiadau, awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Nghymru os yw’r Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw. Fe’u hychwanegwyd at y rhestr o gyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn adran 12(1) o Ddeddf 2004 gan Orchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2004 p. 23; diwygiwyd adran 39 gan baragraffau 20 a 44 o Atodlen 4 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3). Diwygiwyd adran 58 hefyd gan baragraffau 20 a 58 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

(2)

O.S. 2014/3362 (Cy. 337) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/91 (Cy. 22).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources