Search Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 343 (Cy. 97)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021

Gwnaed

17 Mawrth 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 74, 83 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).

Mae gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (sy’n ymwneud ag ymgynghori) wedi eu bodloni.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 174(4) a (5)(i) a (k) o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.

(3Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2022—

(a)rheoliad 11;

(b)rheoliad 12;

(c)rheoliad 13;

(d)rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gan reoliad 11, 12 neu 13.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8;

ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);

ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park Authority”) yw awdurdod yng Nghymru a sefydlir o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(2);

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

(a)

y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);

(b)

wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—

(a)

cyngor sir Caerdydd;

(b)

cyngor sir Fynwy;

(c)

cyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent;

(d)

cyngor bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

(e)

cyngor bwrdeistref sirol Caerffili;

(f)

cyngor bwrdeistref sirol Merthyr Tudful;

(g)

cyngor bwrdeistref sirol Casnewydd;

(h)

cyngor bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf;

(i)

cyngor bwrdeistref sirol Torfaen;

(j)

cyngor bwrdeistref sirol Bro Morgannwg;

mae i “cyfranogwr cyfetholedig” (“co-opted participant”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(3);

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;

ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—

(a)

swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(3) (gweler rheoliad 13), a

(b)

unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

RHAN 1Sefydlu ac ardal

Sefydlu

3.—(1Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (“CBC y De-ddwyrain”) wedi ei sefydlu.

(2Mae gan CBC y De-ddwyrain y swyddogaethau—

(a)a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a

(b)a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.

(3Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y De-ddwyrain gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.

Ardal

4.  Mae ardal CBC y De-ddwyrain wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.

RHAN 2Cyfansoddiad

Cyfansoddiad

5.  Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y De-ddwyrain.

RHAN 3Aelodaeth

Aelodaeth

6.—(1Aelodau CBC y De-ddwyrain yw—

(a)y 10 aelod cyngor, a

(b)aelod Bannau Brycheiniog.

(2Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y De-ddwyrain.

(3Ond nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i aelod Bannau Brycheiniog i’r graddau y mae’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol.

(4Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y De-ddwyrain (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3), oni bai bod—

(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngor

7.—(1Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y De-ddwyrain.

(2Pan fo aelod cyngor yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.

(3Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y De-ddwyrain hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Aelod Bannau Brycheiniog

8.—(1Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y De-ddwyrain (“aelod Bannau Brycheiniog”).

(2Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog yw—

(a)cadeirydd yr Awdurdod,

(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

(3Pan fo aelod Bannau Brycheiniog yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran aelod Bannau Brycheiniog am y cyfnod hwnnw.

Cyfranogwyr cyfetholedig

9.—(1Caiff yr aelodau o CBC y De-ddwyrain gyfethol y personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol—

(a)yn aelodau o un o gyd-bwyllgorau CBC y De-ddwyrain;

(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau eraill CBC y De-ddwyrain.

(2Pan fo person yn cael ei gyfethol o dan baragraff (1) rhaid i’r aelodau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person am y cyfetholiad.

(3Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at berson a gyfetholir o dan baragraff (1) fel “cyfranogwr cyfetholedig”.

(4Nid oes gan gyfranogwr cyfetholedig ond hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (2).

(5Cyfetholir cyfranogwr cyfetholedig—

(a)am gyfnod a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad o roddir o dan baragraff (2),

(b)hyd nes y terfynir y cyfetholiad gan yr aelodau drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig, neu

(c)hyd nes y bo’r cyfranogwr cyfetholedig yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i CBC y De-ddwyrain.

(6Pan fo cyfnod wedi ei bennu o dan baragraff (5)(a), caniateir er hynny i’r aelodau derfynu cyfetholiad y cyfranogwr cyfetholedig cyn diwedd y cyfnod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig.

(7Caiff yr aelodau o CBC y De-ddwyrain ddiwygio cyfetholiad o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r cyfranogwr cyfetholedig.

(8Caiff hysbysiad pellach gynnwys diwygiadau i—

(a)unrhyw hawl i bleidleisio a bennir o dan baragraff (4);

(b)unrhyw gyfnod a bennir o dan baragraff (5)(a).

Rhannu swydd

10.  Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

(a)rheoliad 7(1), neu

(b)rheoliad 8(2),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

RHAN 4Swyddogaethau

Llesiant economaidd

11.  Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y De-ddwyrain (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth

12.—(1Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(4), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y De-ddwyrain, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

(2Mae Rhan 2 o Deddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y De-ddwyrain a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(5).

Swyddogaethau cynllunio strategol

13.  Mae gan CBC y De-ddwyrain y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y De-ddwyrain (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Is-bwerau

14.—(1Caniateir i CBC y De-ddwyrain wneud unrhyw beth—

(a)i hwyluso, neu

(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

(2Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

(a)mynd i wariant;

(b)codi ffioedd;

(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Dirprwyo swyddogaethau

15.—(1Caiff CBC y De-ddwyrain ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor yn ddarostyngedig i—

(a)paragraff (2);

(b)unrhyw ddeddfiad arall sy’n cael yr effaith o wahardd dirprwyo o’r fath neu gyfyngu arno.

(2Ni chaiff CBC y De-ddwyrain ddirprwyo’r swyddogaethau a gynhwysir yn y darpariaethau a ganlyn—

(a)rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig);

(b)rheoliad 12(1) (datblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000);

(c)rheoliad 13 (llunio cynllun datblygu strategol);

(d)rheoliad 16 (cyfrifo’r gyllideb);

(e)rheoliad 17 (ariannu gofyniad y gyllideb);

(f)paragraff 2 o’r Atodlen (penodi a chadarnhau cadeirydd ac is-gadeirydd);

(g)paragraff 7 o’r Atodlen (gweithdrefn bleidleisio wahanol);

(h)paragraff 8 o’r Atodlen (gwneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog);

(i)paragraff 15 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgorau);

(j)paragraff 16 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio).

RHAN 5Ariannu

Cyfrifo gofynion cyllideb

16.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y De-ddwyrain gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—

(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a

(b)ei swyddogaethau eraill.

(2Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—

(a)y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);

(b)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;

(c)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;

(d)unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.

(3Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y De-ddwyrain hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd i’w priodoli i—

(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol, a

(b)ei swyddogaethau eraill.

(4Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-ddwyrain ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(5Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-ddwyrain ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(6Rhaid i CBC y De-ddwyrain—

(a)cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a

(b)cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,

yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.

(7Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.

(8Caiff CBC y De-ddwyrain ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y De-ddwyrain o ganlyniad i hynny.

(9Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain.

Ariannu gofyniad cyllideb

17.—(1Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-ddwyrain gael ei dalu i CBC y De-ddwyrain gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.

(2Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-ddwyrain gael ei dalu i CBC y De-ddwyrain gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau.

(3Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

(4Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2021

Rheoliad 5

YR ATODLENCyfansoddiad

RHAN 1Gweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio

Cadeirio cyfarfodydd

1.  Rhaid i gyfarfodydd CBC y De-ddwyrain gael eu cadeirio gan—

(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu

(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.

Penodi cadeirydd ac is-gadeirydd

2.—(1Yng nghyfarfod cyntaf CBC y De-ddwyrain—

(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a

(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).

(2Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y De-ddwyrain—

(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu

(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.

(3Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.

(4Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—

(a)yr aelodau cyngor, a

(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.

(5Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.

(6Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y De-ddwyrain a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.

(7Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.

(8Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent.

Cyfarfodydd cyffredinol blynyddol

3.  Rhaid i CBC y De-ddwyrain gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.

Cyfarfodydd eraill

4.—(1Caiff CBC y De-ddwyrain gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.

(2Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y De-ddwyrain gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

Cworwm

5.  Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain onid yw—

(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(i)rheoliad 17, neu

(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a

(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.

Y weithdrefn bleidleisio

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain—

(a)ni chaiff nifer y cyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio,

(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,

(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a

(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.

(2Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.

(3Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.

Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol

7.—(1Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.

(2Ond ni chaiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)y paragraff hwn.

(3Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y De-ddwyrain y mae’n gymwys iddynt;

(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).

(4Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol—

(a)aelodau CBC y De-ddwyrain, a

(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.

(5Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.

Rheolau sefydlog

8.—(1Rhaid i CBC y De-ddwyrain wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.

(2Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.

RHAN 2Staff

Cyffredinol

9.  Caiff CBC y De-ddwyrain wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(6).

Telerau ac amodau

10.—(1Pan fo CBC y De-ddwyrain yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y De-ddwyrain.

(2Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal CBC y De-ddwyrain rhag addasu unrhyw delerau ac amodau os yw hynny’n angenrheidiol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

Staff o awdurdodau eraill

11.—(1Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(7)) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y De-ddwyrain ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y De-ddwyrain at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y De-ddwyrain at ddibenion—

(a)y Rheoliadau hyn;

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;

(c)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y De-ddwyrain neu ag arfer ei swyddogaethau.

Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraill

12.—(1Caiff CBC y De-ddwyrain ymrwymo i gytundeb gydag—

(a)cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);

(b)awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),

ar gyfer rhoi staff CBC y De-ddwyrain at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff CBC y De-ddwyrain yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—

(a)at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y De-ddwyrain, a

(b)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.

Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12

13.  Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.

Trosglwyddo staff

14.  Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y De-ddwyrain wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(8) ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.

RHAN 3Is-bwyllgorau

Is-bwyllgorau

15.—(1Caiff CBC y De-ddwyrain—

(a)sefydlu is-bwyllgorau;

(b)penodi’r canlynol yn aelodau o is-bwyllgor—

(i)aelodau o CBC y De-ddwyrain;

(ii)cyfranogwyr cyfetholedig (gweler rheoliad 9).

(2Ni chaiff is-bwyllgor ond arfer y swyddogaethau hynny a ddirprwyir iddo gan CBC y De-ddwyrain (ond gweler rheoliad 15 a pharagraff 16).

(3Rhaid nodi gweithdrefnau is-bwyllgor, gan gynnwys unrhyw weithdrefnau pleidleisio pan fo hynny’n briodol, yn y rheolau sefydlog.

Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

16.—(1Rhaid i CBC y De-ddwyrain sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—

(a)adolygu materion ariannol CBC y De-ddwyrain a chraffu arnynt;

(b)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y De-ddwyrain;

(c)adolygu ac asesu trefniadau CBC y De-ddwyrain ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol;

(d)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y De-ddwyrain ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;

(e)goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y De-ddwyrain;

(f)adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y De-ddwyrain;

(g)arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y De-ddwyrain.

(2Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y De-ddwyrain sicrhau—

(a)bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,

(b)y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac

(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)yn aelod cyngor,

(ii)yn gyfranogwr cyfetholedig, nac

(iii)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.

(3Yn is-baragraff (2), ystyr “cyfranogwr cyfetholedig” yw person a gyfetholir—

(a)yn aelod o is-bwyllgor ac eithrio’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, neu

(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau CBC y De-ddwyrain ac eithrio gweithgareddau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(4Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).

(5Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i sefydlu cyrff corfforedig a elwir yn gyd-bwyllgorau corfforedig. Sefydlir y cyrff hyn er mwyn arfer swyddogaethau penodol a bennir yn y rheoliadau sy’n eu sefydlu, mewn perthynas ag ardal sy’n cynnwys ardaloedd yr awdurdodau lleol sy’n ffurfio aelodaeth y cyd-bwyllgor corfforedig (yn ogystal â hynny, pan roddir swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio strategol i gyd-bwyllgor corfforedig, caiff awdurdod Parc Cenedlaethol fod yn aelod o’r pwyllgor hefyd).

Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu corff corfforedig a elwir yn Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain, ac yn pennu’r swyddogaethau a ganlyn fel rhai sy’n arferadwy gan y corff hwn—

(1y swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76 o Ddeddf 2021),

(2datblygu polisïau trafnidiaeth a llunio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol o dan Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, a

(3llunio cynlluniau datblygu strategol (gweler Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004).

Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain, a’i ardal, ac yn diffinio rhai termau allweddol.

Mae Rhan 2 yn cyflwyno’r Atodlen i’r Rheoliadau. Mae’r Atodlen hon yn cynnwys trefniadau cyfansoddiadol Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain, gan gynnwys trefniadau ynghylch cynnal a chadeirio cyfarfodydd, pleidleisio ar benderfyniadau, sefydlu is-bwyllgorau a staffio.

Mae Rhan 3 yn nodi aelodaeth Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain. Yn unol â’r Rhan hon, bydd y corff wedi ei ffurfio o 10 aelod cyngor, un ar gyfer pob awdurdod lleol yn y de-ddwyrain, ac aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, nad oes ganddo ond hawl i bleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol. Caiff y Pwyllgor gyfethol personau eraill (a elwir yn “cyfranogwyr cyfetholedig”) i gyfranogi ym musnes y Pwyllgor a chaiff roi hawliau pleidleisio i gyfranogwyr cyfetholedig.

Mae Rhan 4 yn pennu y caniateir arfer y 3 swyddogaeth a grybwyllir uchod gan Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain ac y caiff y Pwyllgor wneud pethau eraill i hwyluso arfer y swyddogaethau hynny neu bethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain i gyfrifo ei gyllideb a sut y mae i’w ariannu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

2004 p. 5. Mae Rhan 6 wedi ei diwygio gan Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).

(7)

2006 p. 32. Gweler adran 157A ac Atodlen 9A fel y’u mewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac Atodlen 3 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources