YR ATODLENCyfansoddiad

Rheoliad 5

RHAN 1Gweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio

Cadeirio cyfarfodydd

1.

Rhaid i gyfarfodydd CBC y Canolbarth gael eu cadeirio gan—

(a)

y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu

(b)

os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I1Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Penodi cadeirydd ac is-gadeirydd

2.

(1)

Yng nghyfarfod cyntaf CBC y Canolbarth—

(a)

penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a

(b)

rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor sir Ceredigion gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).

(2)

Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y Canolbarth —

(a)

rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu

(b)

rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.

(3)

Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.

(4)

Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—

(a)

yr aelodau cyngor, a

(b)

unrhyw F1aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.

(5)

Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y Canolbarth a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.

(6)

Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.

(7)

Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (5) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor sir Ceredigion.

Cyfarfodydd cyffredinol blynyddol

3.

Rhaid i CBC y Canolbarth gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.

Annotations:
Commencement Information

I3Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd eraill

4.

(1)

Caiff CBC y Canolbarth gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.

(2)

Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y Canolbarth gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I4Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cworwm

5.

Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth onid yw—

(a)

yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

F2(i)

rheoliad 8(2B);

(ia)

rheoliad 17, neu

(ii)

paragraff 7 o’r Atodlen hon,

yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a

(b)

mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.

Y weithdrefn bleidleisio

6.

(1)

Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth—

F3(a)

ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,

(b)

un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,

(c)

mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a

(d)

os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.

(2)

Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)

rheoliad 17, neu

(b)

paragraff 7 o’r Atodlen hon,

nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.

(3)

Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.

Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol

7.

(1)

Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y Canolbarth fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.

(2)

Ond ni chaiff CBC y Canolbarth fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)

rheoliad 17, neu

(b)

y paragraff hwn.

(3)

Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—

(a)

rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y Canolbarth y mae’n gymwys iddynt;

(b)

ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).

F4(3A)

Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor neu aelod Bannau Brycheiniog o CBC y Canolbarth bleidleisio drwy ddirprwy.

F5(4)

Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.

(5)

Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.

Rheolau sefydlog

8.

(1)

Rhaid i CBC y Canolbarth wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.

(2)

Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.

Annotations:
Commencement Information

I8Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Staff

Cyffredinol

9.

F6(1)

Caiff CBC y Canolbarth wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—

(a)

darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a

(b)

paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 20216.

F7(2)

Rhaid i CBC y Canolbarth sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y Canolbarth gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.

Telerau ac amodau

10.

(1)

Pan fo CBC y Canolbarth yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y Canolbarth.

F8(2)

Ond o ran is-baragraff (1)—

(a)

mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a

(b)

nid yw’n atal CBC y Canolbarth rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

Staff o awdurdodau eraill

11.

(1)

Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 20067) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y Canolbarth ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y Canolbarth at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2)

Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y Canolbarth yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y Canolbarth at ddibenion—

(a)

y Rheoliadau hyn;

(b)

paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;

(c)

unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y Canolbarth neu ag arfer ei swyddogaethau.

F9(3)

Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y Canolbarth yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.

Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraill

12.

(1)

Caiff CBC y Canolbarth ymrwymo i gytundeb gydag—

(a)

cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);

(b)

awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),

ar gyfer rhoi staff CBC y Canolbarth at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2)

Pan fo aelod o staff CBC y Canolbarth yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—

(a)

at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y Canolbarth, a

(b)

at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I12Atod. para. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12

13.

Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.

Annotations:
Commencement Information

I13Atod. para. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Trosglwyddo staff

14.

Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y Canolbarth wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 20068 ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.
Annotations:
Commencement Information

I14Atod. para. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Is-bwyllgorau

Is-bwyllgorau

F1015.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

16.

(1)

Rhaid i CBC y Canolbarth sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—

(a)

adolygu materion ariannol CBC y Canolbarth a chraffu arnynt;

(b)

llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y Canolbarth;

(c)

adolygu ac asesu trefniadau CBC y Canolbarth ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol F11, rheoli perfformiad a llywodraethu corfforaethol;

(d)

llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y Canolbarth ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;

F12(da)

adolygu ac asesu gallu CBC y Canolbarth i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(db)

gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y Canolbarth i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(e)

goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y Canolbarth;

(f)

adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y Canolbarth;

(g)

arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y Canolbarth.

F13(1A)

Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(2)

Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y Canolbarth sicrhau—

(a)

F14nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,

(b)

F15bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac

(c)

nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)

yn aelod cyngor,

(ii)

yn aelod cyfetholedig,

(iii)

yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y Canolbarth, F16...

F16(iv)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F17(2A)

Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

F18(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)

Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).

(5)

Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.