RHAN 5Ariannu

Cyfrifo gofynion cyllideb16.

(1)

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y Canolbarth gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—

(a)

ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a

(b)

ei swyddogaethau eraill.

(2)

Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—

(a)

y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);

(b)

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;

(c)

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;

(d)

unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.

(3)

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y Canolbarth hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd i’w priodoli i—

(a)

ei swyddogaethau cynllunio strategol, a

(b)

ei swyddogaethau eraill.

(4)

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Canolbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(5)

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Canolbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(6)

Rhaid i CBC y Canolbarth —

(a)

cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a

(b)

cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,

yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.

(7)

Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.

(8)

Caiff CBC y Canolbarth ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y Canolbarth o ganlyniad i hynny.

(9)

Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ariannu gofyniad cyllideb17.

(1)

Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Canolbarth gael ei dalu i CBC y Canolbarth gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.

(2)

Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC Canolbarth gael ei dalu i CBC y Canolbarth gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol F1yr aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog.

(3)

Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

(4)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.

F2Cronfa Gyffredinol17A.

(1)

Rhaid i CBC y Canolbarth sefydlu a chynnal cronfa o’r enw cronfa gyffredinol CBC y Canolbarth.

(2)

Rhaid i unrhyw symiau a geir gan CBC y Canolbarth (gan gynnwys symiau a geir o dan reoliad 17(1) neu (2)) gael eu talu i mewn i’w gronfa gyffredinol.

(3)

Rhaid i bob taliad a wneir gan CBC y Canolbarth gael ei wneud allan o’i gronfa gyffredinol.

(4)

Rhaid i CBC y Canolbarth gadw cyfrif o dderbyniadau a delir i mewn i’w gronfa gyffredinol, a thaliadau a wneir allan o’r gronfa honno.

(5)

Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw symiau sydd i’w talu i mewn i, neu allan o, gronfa allanol o fewn yr ystyr a roddir i “external fund” gan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (cronfeydd allanol).