RHAN 3Aelodaeth

Aelodaeth6.

(1)

Aelodau CBC y Canolbarth yw—

(a)

y 2 aelod cyngor, a

(b)

aelod Bannau Brycheiniog.

(2)

Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Canolbarth.

(3)

Ond nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i aelod Bannau Brycheiniog i’r graddau y mae’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol.

(4)

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Canolbarth (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3), oni bai bod—

(a)

darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)

y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngor7.

(1)

Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

(a)

yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

(b)

y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y Canolbarth.

(2)

Pan fo aelod cyngor yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.

(3)

Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Canolbarth hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Aelod Bannau Brycheiniog8.

(1)

Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Canolbarth (“aelod Bannau Brycheiniog”).

(2)

Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog yw—

(a)

cadeirydd yr Awdurdod,

(b)

dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

(c)

cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

(3)

Pan fo aelod Bannau Brycheiniog yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran aelod Bannau Brycheiniog am y cyfnod hwnnw.

Cyfranogwyr cyfetholedig9.

(1)

Caiff yr aelodau o CBC y Canolbarth gyfethol y personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol—

(a)

yn aelodau o un o gyd-bwyllgorau CBC y Canolbarth;

(b)

i gyfranogi yng ngweithgareddau eraill CBC y Canolbarth

(2)

Pan fo person yn cael ei gyfethol o dan baragraff (1) rhaid i’r aelodau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person am y cyfetholiad.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at berson a gyfetholir o dan baragraff (1) fel “cyfranogwr cyfetholedig”.

(4)

Nid oes gan gyfranogwr cyfetholedig ond hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (2).

(5)

Cyfetholir cyfranogwr cyfetholedig—

(a)

am gyfnod a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad o roddir o dan baragraff (2),

(b)

hyd nes y terfynir y cyfetholiad gan yr aelodau drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig, neu

(c)

hyd nes y bo’r cyfranogwr cyfetholedig yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i CBC y Canolbarth.

(6)

Pan fo cyfnod wedi ei bennu o dan baragraff (5)(a), caniateir er hynny i’r aelodau derfynu cyfetholiad y cyfranogwr cyfetholedig cyn diwedd y cyfnod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig.

(7)

Caiff yr aelodau o CBC y Canolbarth ddiwygio cyfetholiad o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r cyfranogwr cyfetholedig.

(8)

Caiff hysbysiad pellach gynnwys diwygiadau i—

(a)

unrhyw hawl i bleidleisio a bennir o dan baragraff (4);

(b)

unrhyw gyfnod a bennir o dan baragraff (5)(a).

Rhannu swydd10.

Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

(a)

rheoliad 7(1), neu

(b)

rheoliad 8(2),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.