Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg.

Mae adran 25 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg a bennir gan Weinidogion Cymru os yw’r person, yn ogystal â bodloni amodau eraill, yn agored i orfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a bod y safon yn gymwysadwy i’r person.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 6 i’r Mesur i ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy Reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Effaith hyn yw bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff sy’n agored i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg a bod y safonau cyflenwi gwasanaethau, y safonau llunio polisi, y safonau gweithredu, y safonau hybu a’r safonau cadw cofnodion yn gymwysadwy iddynt hwy.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.