Offerynnau Statudol Cymru
Y Gymraeg
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
17 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
2.—(1) Mae Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc: safonau)(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl, o dan y pennawd “LLYWODRAETH LEOL ETC”, yn y lle priodol mewnosoder—
| “Cyd-bwyllgorau corfforedig (“Corporate joint committees”) | Safonau cyflenwi gwasanaethau |
| Safonau llunio polisi | |
| Safonau gweithredu | |
| Safonau hybu | |
| Safonau cadw cofnodion” |
(3) Ym mharagraff 2 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg.
Mae adran 25 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg a bennir gan Weinidogion Cymru os yw’r person, yn ogystal â bodloni amodau eraill, yn agored i orfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a bod y safon yn gymwysadwy i’r person.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 6 i’r Mesur i ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy Reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Effaith hyn yw bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff sy’n agored i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg a bod y safonau cyflenwi gwasanaethau, y safonau llunio polisi, y safonau gweithredu, y safonau hybu a’r safonau cadw cofnodion yn gymwysadwy iddynt hwy.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2011 mccc 1. Diwygiwyd Atodlen 6 yn flaenorol ond nid yw’r diwygiadau yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.